Salmau 108 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM CVIII.8.7.Cân neu Salm Dafydd.

1Parod yw fy nghalon, Arglwydd —

Parod yw fy nghalon i;

’N awr i ganu ac i ganmawl

D’ enw gogoneddus di.

2Deffro, fy ngogoniant — deffro,

Nabl a thelyn, seiniwch gân;

Minnau a ddeffrof yn foreu,

I glodfori ’m Harglwydd glân.

3Molaf di yn mysg y bobloedd,

Arglwydd, tra y byddwyf byw;

A dadganaf i’r cenhedloedd

Glodydd enw mawr fy Nuw.

4Canys mawr yw dy drugaredd,

Yn cyrhaeddyd hyd y nen;

A’th wirionedd hyd gymmylau

’R awyr eang uwch ein pen.

5Duw! ymddyrcha uwch y nefoedd,

Bydded dy ogoniant mawr

Yn tywynu mewn disgleirdeb

Drwy ororau daear lawr.

Rhan

II.

7.6.

7Duw, yn ei deml sanctaidd,

Lefarodd — Llawenhâf,

Myfi a ranaf Sichem,

A mesur Succoth wnaf;

8Ac eiddo fi yw Gilead,

Manasseh, ac Ephraim gry’;

A Iudah yw fy neddfwr —

Mae ’r llwythau oll o’m tu.

9Gwneir Moab uchelfrydig

Yn grochan golchi im’,

Tros Edom bwriaf f’ esgid,

Philistia wnaf yn ddim.

10Pwy ’m dwg i’r ddinas gadarn,

Pwy ’m dwg i Edom fawr,

11Neb, ond tydi, O Arglwydd!

Duw lluoedd nef a llawr!

Ond ti, O Dduw! a’n bwriaist

Ni ymaith — trallod fu:

Ac onid ai di allan

O Arglwydd! gyda ’n llu?

12Yn awr, moes in’ gynnorthwy,

Gau yw ymwared dyn:

13Ti yn dy nerth a sethri

’N gelynion bob yr un.

Nodiadau.

Salm wedi ei llunio o ddwy salm flaenorol ydyw hon. Y mae y rhan olaf o honi, o adn. 6 hyd y diwedd, bron yn hollol yn yr un geiriau a’r wyth adnodau olaf o Salm lx., a’r rhan flaenaf o honi yr un peth a’r pump adnodau olaf yn Salm lvii. Rhyw achlysur neu amcan anhysbys i ni, ac nad gwiw ceisio dyfalu beth ydoedd, hwyrach, a barai i Dafydd wneyd y cyfnewidiadau hyn; gan hyny, ni a’i gadawn ar hyn yna.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help