1Myfi a lefais arnat, Nêr,
Yn nydd cyfyngder enbyd:
Gwrandewaist a gwaredaist fi
O’m holl galedi dybryd.
2O Arglwydd! cadw fi rhag gau
Wefusau ’r rhai celwyddog —
Oddi wrth y tafod drwg ei naws,
A’i eiriau traws a miniog.
3Tebyg i beth y d’wedem fod
Yr enwir dafod eiddig?
4Tebyg i lymion saethau cawr,
Neu farwawr meryw ffyrnig.
5Gwae fi fy mod ’mysg gwŷr dirâs
Yn Mesech gâs yn trigo;
Yn mhebyll duon Cedar wael
’N iselwael ’rwy’n preswylio.
6Hir trigodd f’ enaid gyda’r rhai
Sydd yn casau y gwirion;
7Heddychol wyf — pan dd’wedaf air
Am ryfel cair hwy ’n union.
Nodiadau.
Y mae y salm hon yn sefyll ar ben dosbarth neillduol o’r salmau, pymtheg mewn nifer, a elwir Caniadau y graddau. Y mae y tybiau amrywiol ynghylch ystyr ac amcan y teitl hwn bron yn aneirif. Mỳn rhai eu galw Caniadau y grisiau, a’u bod wedi eu cyfansoddi i’w canu ar amserau arbenig gan y cerddorion wrth ddringo y grisiau oedd yn arwain i’r deml. Ereill a’u galwant Caniadau yr esgyniad, i’w canu wrth esgyn bryn Seion o’r ddinas i fyned i dŷ yr Arglwydd. Ereill etto a’u galwant Caniadau dyrchafedig, ar gyfrif gwychedd y cyfansoddiad, neu beroriaeth yr alaw y cenid hwynt arni; yr hon, meddant, oedd yn dechreu yn isel, ac yn chwyddo yn raddol i’r nodau uchaf mewn cerddoriaeth. Caniadau a genid gan y gaethglud ar y ffordd yn eu dychweliad adref o gaethiwed Babilon oeddynt, fe dybia rhai; ac y mae yn amlwg ddigon fod rhai o’r caniadau hyn yn perthyn i’r cyfnod hwnw: ond nid oes yn y rhan fwyaf o honynt ddim o sŵn y caethiwed hwnw, na’r waredigaeth o hono. Tebygol ydyw ddarfod iddynt gael eu cyfansoddi ar amrywiol adegau, ac oddi ar wahanol ac amrywiol achlysuron, ac fe allai gan amrywiol bersonau, ac i Ezra eu cyfleu gyda’u gilydd yn nghanon y llyfr hwn; a hyny yn benaf, fe ddichon, am eu bod yn ganiadau perthynol i’r un alaw.
Y mae y cyfeiriad at Mesech, a phebyll Cedar hefyd, yn y salm hon wedi peri cryn benbleth i ddeonglwyr ysgrythyrol. Ni bu Dafydd erioed yn y manau hyny, meddant, na neb o’r caethion a ddygwyd i Babel chwaith. Cyfeirir at Arabiaid anwar a rhyfelgar oedd yn crwydro yn yr anialdiroedd dwyreiniol; a dichon fod y cyfansoddydd, pwy bynag ydoedd, yn arwyddo fod y dynion yr oedd efe yn trigo yn eu mysg ar y pryd yn ddynion cyffelyb i’r Arabiaid hyny. Fe wêl y darllenydd fod ystyr gwahanol i’n geiriau am y tafod twyllodrus, & c., yn yr aralleiriad yma, i’r un a gyflea ein cyfieithiad ni, a’r un Saesneg yr un modd; sef, mai amcan cyfansoddydd y salm ydoedd, cyffelybu geiriau y tafod twyllodrus i saethau llymion a marwor poeth, ac nid ei drywanu â saeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.