Salmau 149 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM CXLIX.8.7.

1Molwch enw’r Arglwydd: cenwch

Ganiad newydd, uchel fraint;

Dyrchwch beraidd lawen foliant,

Iddo ’n nghynnulleidfa’r saint.

2Llawenhaed ei bobl, Israel,

Yn yr hwn roes iddynt fod:

Gorfoledded meibion Seion,

Yn eu Brenin, mawr ei glod.

5Llawenhaed y saint, a chanant

Ar eu gwelyau yn ddi‐daw:

6Moliant Duw fo yn eu genau,

Cleddyf deufin yn eu llaw:

7I roi dial ar genhedloedd,

Barn a chosp ar bobloedd byd,

8I rwymo teyrniaid a phenaethiaid

Mewn gefynau heiyrn ynghyd.

9I weinyddu ’r farn ’sgrifenwyd

Arnynt hwy yn llyfrau ’r nef:

’R ardderchawgrwydd hwn a berthyn

I’w holl saint a’i bobl ef.

Nodiadau.

Mawl un am ryw fuddugoliaeth fawr, neu waredigaeth hynod a gawsai Israel, ydyw y salm hon, fel amryw salmau ereill. Gelwir hi yn “ganiad newydd.” Y mae amlygiad newydd o ddaioni Duw i’w bobl yn galw am gân newydd o fawl a diolchgarwch am dani. Pa faint amlach yw trugareddau newyddion Duw i ni nag ydyw ein diolchiadau newyddion ni iddo ef? Geilw y Salmydd ar ffyddloniaid Israel i lawenhau yn eu Duw, a mawrhau ei enw, am eu rhagorfreintiau rhagorol fel ei bobl ddewisedig ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help