Salmau 75 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM LXXV.M. S.I’r Pencerdd, Al‐taschith, Salm neu Gân Asaph.

1Clodforwn di, O Arglwydd Dduw!

Dy enw sy’ i’w fawrygu;

Dy ryfeddodau yn ddilys

I ni a ddengys hyny.

2Er pan y ces gyfleusdra ’n wir

Cyfiawnder pur a fernais;

3Ymddattodasai seiliau ’r wlad,

Myfi a’i hadsefydlais.

4Dywedais wrth ynfydion trwch,

Nac ymynfydwch, ddynion;

Ac wrth y rhai annuwiol chwyrn,

Na chodwch eich cyrn digllon.

5Na falch ddyrchefwch eich corn syth,

Yn warsyth na leferwch:

6Nid o’r gorllewin, dwyrain chwaith,

Daw’r fuddugoliaeth — cofiwch!

7Ond Duw, efe sy’n barnu ’r byd;

Fe gyfyd un i fyny,

A’r llall a deifl efe i lawr,

Oedd gynt yn fawr ei allu.

8Mae ’n llaw Iehofah phiol lawn,

Gwin coch cryf iawn sydd ynddi;

Tywalltodd eisoes â’i law lân

Rai dafnau mân o honi.

Fe wasga etto waddod hon,

A’r annuwiolion yfant

O hono, ac fe’u gwneir yn llawn,

A chwerw iawn y’i profant.

9A minnau byth mynegu wnaf,

A chanaf i Dduw Iago;

10Holl gyrn yr enwir, toraf hwy,

Gwna ’r cyfiawn mwy flodeuo.

Nodiadau.

Y mae tywyllwch ac ammheuaeth o amgylch awduriaeth ac amseriad y salm hon etto. Mỳn Boothroyd, a rhai ereill, ei phriodoli i Dafydd, am ei bod yn cynnwys disgrifiad cywir o sefyllfa gwladwriaeth Israel ar ol marwolaeth Saul, a chyn llawn sefydlu gorseddfaingc a llywodraeth Dafydd:— “y ddaear,” h. y., y wladwriaeth, megys wedi ymddattod ac ymranu; ac mai Dafydd oedd i’w hadgyfanu a’i hadferu i gyflwr sefydlog, o’r ystâd hono. Fodd bynag, y mae y disgrifiad yn bwrpasol iawn i gyflwr gwladwriaethol Israel y pryd hwnw. Mỳn ereill mai Asaph y gweledydd a’i cyfansoddodd, wedi i fyddin brenin Assyria gael ei dyfetha o flaen Ierusalem yn amser y brenin Heseciah. Yr oedd brenin Assyria wedi goresgyn holl wlad Iudah, a dymchwelyd pob trefn ar lywodraeth wladol yn y tir:— y mae y salm yn briodol i’r amgylchiadau hyny hefyd. Os yr Asaph hwnw a’i cyfansoddodd, llefaru yn mherson ei frenin, Heseciah, y mae efe. Nid ydyw yr ymadroddion, “Myfi sydd yn cynnal ei cholofnau hi,” ac “Mi a farnaf yn uniawn,” yn briodol i ddyn neu ddeiliad cyffredin, fel Asaph, nac i neb ond un mewn swydd ac awdurdod; ïe, i brif ynad yn y wladwriaeth.

Salm o addysg ac athrawiaeth mewn pethau gwladwriaethol yn benaf ydyw hon, i rybuddio a chynghori barnwyr anghyfiawn a dynion aflonydd a therfysgus yn y tir; yn amlygu penderfyniad y brenin, fel prif swyddog Duw, i gadw llaw drom arnynt, a’u darostwng, oni chymmerent rybudd a diwygio: “Brenin yn eistedd ar orsedd barn a wasgar â’i lygaid bob drwg;” Diar. xxviii. 8.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help