1Atat ti, yr hwn breswyli
Yn uchelder nef y nef,
Y dyrchafaf fi fy llygaid
Am dy nawdd a’th gymmhorth gref.
2Fel gwna gweision a morwynion,
Graffu ar ddwylaw ’u meistriaid hwy,
Felly craffa ’n llygaid ninnau
Ar ein Duw yn wastad mwy.
Hyd nes trugarhao wrthym,
Y disgwyliwn wrtho ef:
3Cyfod, Arglwydd, brysia atom,
Yn ein trallod gwrando’n llef.
4Do, fe lanwyd ein heneidiau
A gwatwargerdd dynion mawr;
Beilchion byd a’r rhai goludog,
Mathrant ni dan draed i lawr.
Nodiadau.
Cyfansoddwyd y salm hon mewn amser o iselder a thrallod. Dichon mai un o ffyddloniaid Israel yn nhymmor y caethiwed yn Babilon a’i cyfansoddodd. Neu ynte, y trallod yr oedd y rhai a ddychwelasant gyntaf o Babilon ynddo, dan ddirmyg y cenhedloedd o’u hamgylch, a Sanbalat a Thobia, ac ereill, fel y disgrifir eu cyflwr yn Llyfr Nehemiah; a gallai mai mewn attebiad i’r weddi hon, a gweddïau cyffelyb, y codwyd Nehemiah ac Ezra i fod yn offerynau i ddwyn yr ymwared y gweddïir am dano iddynt. Llefara y Salmydd ar y cyntaf yn ei berson ei hun, oddi ar ei brofiad ei hunan; a thry yn union wed’yn i lefaru neu i weddïo yn enw’r holl ffyddloniaid oedd yn teimlo ac yn dymuno yr un modd ag yntau. Enghraifft o weddi ddyfal ydyw. Y mae y ffyddloniaid yma yn sefydlu ac yn craffu eu llygaid — llygaid eu ffydd, eu gobaith, eu dymuniad, a’u disgwyliad — ar “obaith Israel, a’i Geidwad yn amser adfyd,” am ymwared buan o’r trallod blin yr oeddynt ynddo, fel y craffa llygaid gweision eu golwg ar ddwylaw eu meistriaid. Cyfeirir yn ddiau at frenhinoedd yn y dwyrain, a’u gweision. Trwy arwyddion â’r llaw a’r bysedd y llefarent wrth eu gweision a’u morwynion, y rhai oeddynt wedi eu haddysgu i ddeall ewyllys eu harglwyddi drwy yr arwyddion a roddid iddynt; ac yr oedd esgeulusdra a diofalwch i wylio yr arwyddion hyny, ar ran gwas neu forwyn, yn drosedd a gospid â marwolaeth. Rhaid felly y craffai llygaid y gweinidogion hyny ar ddwylaw eu meistriaid gyda’r gofal mwyaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.