1Molwch yr Arglwydd, clodforwch ei enw,
Chwi weision Iehofah, moliennwch e’ i gyd;
2Chwi sydd yn sefyll o fewn i gynteddau
Tŷ’r Arglwydd ein Duw, rhowch fawl iddo ’nghyd.
3Molwch yr Arglwydd, canys da yw yr Arglwydd;
Cenwch i’w enw, gwaith hyfryd iawn yw;
4Yr hwn iddo ’i hun ddewisodd hâd Iago,
Ac Israel yn bobl briodol i Dduw.
5O blegid mae’n hysbys i ni fod Iehofah
Goruwch yr holl dduwiau, yn anfeidrol fawr;
6Fe wnaeth ’rhyn a fynai ’n y nefoedd a’r ddaear,
Yn eigion y môr, a dyfnderoedd y llawr.
7Mae’n codi y tarthoedd o eithaf y ddaear;
Y mellt wnaeth efe, y cenllysg, a’r gwlaw;
Ni raid iddo ond galw, y gwynt o’i drysorau
Mewn parod ufudd‐dod yn union a ddaw.
8Tarawodd yr Aipht yn ei chyntafanedig,
Yn ddyn ac anifail, bu ddirfawr eu cur;
9Anfonodd arwyddion a mawr ryfeddodau,
I’th ganol di’r Aipht, ar Pharaoh a’i holl wŷr.
10Yr hwn a darawodd genhedloedd, do, lawer,
A lladdodd frenhinoedd oedd uchel eu bryd;
11Sehon ’r Amoriad, ac Og brenin Basan,
A holl frenhiniaethau Gwlad Canaan i gyd.
12Eu tiroedd a roddodd efe ’n etifeddiaeth
I Israel ei bobl, i’w helaeth fwynhau;
13Dy enw, O Arglwydd! a bery’n dragywydd,
A sôn am dy wyrthiau fydd byth yn parhau.
14Yr Arglwydd a farna ei bobl yn uniawn,
Ac wrth ei drueiniaid efe drugarhâ;
Pan welo ei weision mewn adfyd a chyni,
Efe a dosturia — a’u harbed a wna.
15Holl ddelwau’r cenhedloedd nid y’nt ond eilunod
O aur ac o arian, gwaith dwylaw dyn;
16Y mae genau iddynt, ond hwy ni lefarant,
A llygaid sydd ganddynt, ond ni wêl yr un.
17Y mae clustiau iddynt, ond clywed nis gallant;
Dim bywyd nac anadl i’w genau nid oes;
18A thebyg yw’r dynion diddeall a’u gwnaethant,
A phawb ynddynt hwy eu hymddiried a roes.
19Tŷ Israel, bendithiwch chwi ’r Arglwydd Iehofah;
Tŷ Aaron
20a Lefi, bendithiwch e’nghyd;
Rhai ofnwch yr Arglwydd, yn fychain a mawrion,
Bendithiwch, bendithiwch yr Arglwydd o hyd.
21Bendithier yr Arglwydd o Seion yn wastad,
Chwychwi, sydd yn trigo yn Salem, na thewch;
Datgenwch ogoniant ei enw bob amser,
Rhowch ynddo ’ch ymddiried, a chydlawenhewch.
Nodiadau.
Bernir mai hymn foreuol yw y salm hon, i’w chanu ar agoriad drysau tŷ’r Arglwydd yn y boreu, fel yr oedd y salm o’r blaen yn emyn hwyrol. Yma yr adgofir amryw o fawrion weithredoedd yr Arglwydd, a wnaethai efe ar Israel er cymmhell Israel i’w fawrhau a’i foliannu wrth goffadwriaeth y gweithredoedd hyny. Y mae y gwirionedd mawr yr oedd y genedl etholedig wedi ei galw a’i bwriadu i fod yn dyst o hono yn y byd, sef mai Iehofah yw yr unig wir a bywiol Dduw, yn cael lle arbenig yn y gân, er ei gadw yn wastad ar galon ac ar dafod Israel. Tywelltir yma y dirmyg mwyaf ar dduwiau a delwau y Cenhedloedd, ac ynfydrwydd y rhai a’u gwnaent ac a’u haddolent; a chymmhellir Israel i lynu yn ddiymmod wrth addoliad a gwasanaeth Iehofah, yr hwn a wnaethai gymmaint erddynt a throstynt, ac i ymddiried ynddo rhag llaw. Y mae yr Arglwydd am i’w bobl gadw ei weithredoedd gynt mewn côf, ei foliannu am danynt, a’u gwneyd yn seiliau i ymddiried ynddo byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.