Salmau 93 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM XCIII.12.11.

1Iehofah! Iehofah! efe sy’n teyrnasu,

Ardderchawgrwydd a nerth a wisgodd efe;

Yn mawredd ei allu y gwnai ymwregysu,

Y byd sicrhaodd — ni syfla o’i le.

2Erioed y darparwyd d’ orseddfa fawreddus,

Ti er tragwyddoldeb sy’ byth yn parhau;

3Dyrchafai ’r llifeiriaint eu tonau cythryblus

Y llifoedd a ruent eu mawrion dwrfäu.

4Iehofah ’n uchelder y nef sy’n gadarnach

Na thwrf y rhyferthwy, na thonau y môr;

5(Dy holl dystiolaethau na’r bryniau ynt sicrach),

Sancteiddrwydd byth weddai i’th dŷ, Arglwydd Iôr.

Nodiadau.

I Dafydd y priodolir y salm fer fywiol hon gan ddysgawdwyr hen a diweddar yn gyffredin. “Mawrhydi, gallu, a sancteiddrwydd teyrnas Crist,” ydyw y cynnwysiad a ddodwyd o’i blaen gan rywun; a diau mai am y Messïah, ei ogoniant, a’i fawrhydi dwyfol personol, a’i lywodraeth gyffredinol ar bob peth y lleferir. Tystiolaethir (yn adn. 1) fod y byd — pob peth yn natur — yn cydsefyll ynddo ef. Yr Iehofah sydd yn teyrnasu. Yn adn. 2, fod ei orseddfaingc ef, y Messïah, wedi ei darparu erioed, cyn pob peth; a’i fod ef, sydd yn eistedd arni er tragwyddoldeb, gan hyny, yn bersonol a phriodol, yn Dduw. Yna yn adn. 4 a 5, ar derfysgoedd ac ymgyrchion ofer gelynion y brenin a’i lywodraeth, a sicrwydd eu gorchfygiad a’u darostyngiad oll ganddo; a therfyna drwy ddadgan ei ffydd a’i hyder diysgog yn nhystiolaethau gair ac addewidion Duw, ac â’r ystyriaeth o’r purdeb a’r parchedig ofn sydd yn weddus ac angenrheidiol yn ei addoliad a’i addolwyr ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help