1Pan ddygwyd tŷ Israel o’r Aipht a’i thrwm waith,
Tŷ Iago oddi wrth bobl estronol eu hiaith,
2Sancteiddrwydd i’r Arglwydd oedd Iudah i fod,
Ac Israel ei helaeth arglwyddiaeth i’w glod.
3Y môr, pan ei gwelodd, a giliodd gan ffoi;
Hen afon Iorddonen yn ol a wnai droi.
4Mynyddoedd a neidient, a llament fel lloi.
5Beth welaist ti, ’r eigion, pan rwygai dy gol?
A thithau, Iorddonen, pan droaist yn ol?
6Pa’m, fryniau, y neidiech fel ŵyn ar lawr dôl?
7Arswyda, O ddaear! ac ofna di Dduw,
Duw Iago, ei Geidwad a’i ynad ef yw,
8’R hwn dry ’r graig a’r sychdir yn ffrydiau dŵr byw.
Nodiadau.
Tybiwn fod y gân fer fywiog‐farddonol hon wedi ei hamcanu a’i chymmhwyso yn arbenig i rieni yn Israel, i’w dysgu i’w plant ar yr aelwyd gartref, er argraphu yn foreu ar eu cof a’u calon y digwyddiadau rhyfedd, a’r mawrion wyrthiau a’r rhyfeddodau a wnaethai Duw yn ngwaredigaeth eu tadau o’r Aipht, eu harweiniad drwy yr anialwch, a’u dygiad i mewn i etifeddu gwlad yr addewid. Adgoffeir y pethau hyn i’r genedl drachefn a thrachefn laweroedd o weithiau, ac mewn llawer modd, yn yr Hen Destament, a gorchymynir i’r tadau eu hysbysu i’w plant, ac ni allai dim fod yn fwy pwrpasol i’r perwyl hwnw na’r gân hon. Mae chwarëyddiaeth y farddoniaeth gyssegredig ynddi — yn dangos y môr yn ofni ac yn cilio; yr Iorddonen yn dychrynu, ac yn troi yn ei hol; y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid; a’r dull yr holir y môr a’r afon, y mynyddoedd a’r bryniau, beth a barai iddynt gilio, a ffoi, a neidio felly — yn rhwym o ddeffro dychymmyg a chyffroi teimlad pob dyn, ac yn neillduol ieuengctyd a phlant. A beth a dueddai yn fwy i rwymo calonau y plant wrth addoliad a gwasanaeth Duw eu tadau na’r goffadwriaeth am y pethau rhyfedd ac ofnadwy a wnaeth efe iddynt, a throstynt? Dysg y gân hon i ni y rhaid i bob peth yn natur y môr a’r afon, y mynydd a’r bryn, roddi y ffordd, os bydd eisieu, o flaen Duw, pan y mae yn dyfod i waredu ei bobl, a chyflawni bwriadau tragywyddol ei ras ar y ddaear. Gwnaeth yr eglwys Iuddewig yn ei gwaredigaethau hi yn ddrych i’r môr, a’r afon, a’r mynyddoedd, a’r bryniau; ïe, y ddaear a grynodd, a’r holl genhedloedd o amgylch hefyd. Crynodd lleni tir Midian, daliodd dolur breswylwyr Palestina, synodd duciaid Edom, dychrynodd cedyrn hyrddod Moab, pan aeth Iehofah allan er iachawdwriaeth i’w bobl, er iachawdwriaeth, ynghyd â’i Eneiniog: Exod. xvi. 14, 15, a Hab. iii. 6-13. Gwnaeth, nid yr un, ond y cyffelyb bethau lawer gwaith wedi hyny — ac efe a wna etto. Gwnaeth yr eglwys efengylaidd, ar ei genedigaeth a’i sefydliad cyntaf, yn ddrych i’r byd, i angylion, ac i ddynion; a phan orpheno efe ei waith ynddi, pan ddygir yr adeiladaeth ysbrydol hon i berffeithiad, “yna y gwelir ef yn ei ogoniant.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.