1Llawer gwaith y’m cystuddiasant,
O’m hieuengctid hyd yn awr;
Felly dichon Israel ddywedyd
Gyda phriodoldeb mawr.
2Llawer gwaith y’m cystuddiasant
O’m hieuengctid, etto i gyd
Ni’m gorfuant, byw wyf heddyw
Er eu gwaethaf oll ynghyd.
3Ar fy nghefn estynai ’r arddwyr
Gwysau hirion dyfnion iawn;
Drwy fy natur gwnaent aredig
Clwyfau mewn creulondeb llawn.
4Cyfiawn yw Iehofah, torodd
Offer trais yr anwir lu;
5Trodd yn ol a gwaradwyddodd
Holl gaseion Seion gu.
6Byddant oll un fath a’r glaswellt
Sydd yn tyfu ar benau tai;
’R hwn cyn torir ef, a wywa —
Felly byddant hwy bob rhai.
7Hwn ni leinw law ’r pladurwr,
Mynwes rhwymwr ’sgubau chwaith;
8Ac ni dd’wed y rhai ânt heibio
Bendith Duw fo ar y gwaith.
Nodiadau.
Yma, teflir golwg yn ol ar y gwasgfeuon a’r cyfyngderau y daeth y genedl etholedig drwyddynt yn ngwahanol gyfnodau ei hanes. Yr oeddynt yn llawen. Ymosodasai llawer o elynion cryfion a chreulawn arni, o ddyddiau ei gorthrymder yn yr Aipht, yn nhymmhor ei hieuengctid, hyd ddyddiau y Salmydd, a bu megys yn ymyl darfod am dani byth aml dro; ond diangodd yn fyw drwy bob cyfyngder. Darfu am lawer o’i gelynion, torwyd ymaith lawer cenedl a fuasai yn ei gorthrymu fel glaswellt penau’r tai, a hithau wedi byw i lawenhau a chanu ar achlysur eu cwymp. Cydnabydda y Salmydd law Duw yn holl waredigaethau ei bobl, a chwymp a dinystr eu gelynion, gan briodoli yr holl ogoniant iddo ef; a phrophwyda mai i’r dynged druenus y deuai holl elynion Duw a’i bobl yn y diwedd.
Megys y gallasai Israel Duw ddywedyd yn amser y Salmydd am ei gelynion, ei phrofedigaethau, a’i gwaredigaethau hi, y gall eglwys Dduw ddyweyd yr awr hon etto. Cyfododd llaweroedd o elynion cryfion a chreulawn i’w herbyn; “estynasant eu cwysau yn hirion ar ei chefn” lawer gwaith wedi hyny; etto ni orfuant arni. Gofalodd Ceidwad Israel am dani. Darfu am luoedd o elynion yr eglwys Gristionogol ar ol eu gilydd; gwywodd eu galluoedd fel glaswellt penau tai; ond y mae hi etto yn fyw, yn tyfu ac yn ffrwytho, fel y bu i’r hen eglwys Iuddewig a’i gelynion, ac fel y bydd etto — hyd oni wywa y gelyn olaf, ac y llwyr waredir ac y gogoneddir hithau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.