Salmau 91 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM XCI.6.4.

1’R hwn drig yn nirgel le

Goruchaf Frenin ne’,

Dan aden gudd

Duw nos a dydd

Diogel fydd efe:

2Mi dd’weda’ am Dduw,

Fy noddfa yw,

Fy ngheidwad byw diball,

Byth yn fy Naf

Ymddiried wnaf

Ei gymmhorth gaf,

Ymlawenhaf,

A byth ni welaf wall.

3Efe a’th geidw di

O fagl yr heliwr du,

Ac oddi wrth ddaint

Echryslawn haint,

4Er cymmaint fyddo ’r cri:

Ei asgell wen,

Gysgoda’th ben,

A than ei aden ef

Da fydd dy fyd,

A thawel glyd

Ei wir o hyd

A fydd mewn pryd

Dy darian hyfryd gref.

Rhan

II.

M. H. D.

5Rhag dychryn nos nid ofni ’n brudd,

Na rhag y saeth ehedo’r dydd:

6Holl heintiau ’r gwyllnos geidw i ffwrdd,

Distryw ’r canolddydd chwaith ni’th gwrdd:

7Fe gwympa mil wrth d’ ystlys draw,

A deng mil ar dy ddeheu law,

Ond ni ddaw ’n agos atat ti,

A’r distryw heibio megys lli’.

8Cei wel’d â’th lygaid oddi draw

Dâl annuwiolion ar bob llaw.

9Am i ti wneuthur fy Nuw i

Sef y Gorucha’n noddfa i ti,

10Ni ddigwydd i ti ddrwg, na chraith,

Ac ni ddaw pla i’th babell chwaith;

11Fe archa i’w angelion fyrdd

I’th gadw a’th warchod yn dy ffyrdd.

12Ar eu dwy law y’th ddygant hwy

Rhag taraw ’th droed, a chaffael clwy’:

13Ti sethri ’r llew a’r asp heb oed,

A’r ddraig a fethri dan dy droed:

14Am iddo roddi arna’i serch

Gwaredaf ef rhag drygau erch;

Dyrchafaf ef, ni syrth i lawr,

Am iddo adnabod f’ enw mawr.

15Fe eilw arnaf, a myfi

A rwydd wrandawaf ar ei gri:

Mewn ing rhof iddo gymmhorth gref,

Dyrchafaf, gogoneddaf ef:

16Digonaf ef â dyddiau hir

I wel’d daioni yn y tir;

A’m hiachawdwriaeth fawr ei dawn

Ddangosaf iddo ’n eglur iawn.

Nodiadau.

Priodolir y salm hon i Dafydd gan y Deg a Thrigain, y Vulgate, a’r Arabic. Ond myn rhai rabbiniaid Iuddewig mai Moses oedd ei hawdwr. Ceir amryw esbonwyr, hen a diweddar, yn cyttuno â’r rabbiniaid, ac ereill â’r dyb mai Dafydd oedd ei hawdwr; ac mai ar ol y pla mawr o achos iddo rifo y bobl y cyfansoddodd efe hi. Nid yw hyny, feddyliem, yn ymddangos yn beth tebygol; canys nid oes yn y salm lais edifeirwch ac ymostyngiad am bechod, fel y gallasem ddisgwyl gael mewn salm i Dafydd ar y fath achlysur. Dichon, er hyny, mai efe a’i cyfansoddodd ar ryw amser ac achlysur arall yn ei fywyd: fodd bynag, ni ellir bod yn sicr pwy oedd ei hawdwr. Y mae efe, pwy bynag oedd, yn proffesu ei ffydd a’i hyder yn Nuw fel ei Geidwad a’i Waredydd hollalluog, rhag pob drygau a niweidiau tymmorol ac ysbrydol; ac oddi ar ei brofiad dedwydd o’r hyder hwnw, yn galw megys o’i noddfa dragywyddol ar rai oddi allan i droi i mewn iddi, ac yn eu cymmhell i hyny drwy glodfori ei noddfa a’i waredydd. Y mae pob un erioed a adnabu Dduw fel Duw ei iachawdwriaeth, a chraig ei nodded yn awyddus am gael ereill i’r un cyflwr o ddiogelwch. Y cynnwysiad o flaen y salm ydyw “Cyflwr y duwiol, eu diogelwch, a’u trigias; eu gweision, a’u caredigion; a diwedd y cwbl.” O ran eu cyflwr, y maent yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, ac yn ei ffafr a’i gymmeradwyaeth, ac yn wrthddrychau neillduol ei ofal a’i nawdd ef. Traethir am sicrwydd eu diogelwch dan y nawdd dwyfol o adn. 3 hyd 10. “Eu gweision a’u caredigion” ydynt yr angelion (adn. 11-13): yr “ysbrydion gwasanaethgar sydd wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth.” Y mae hono yn hen dybiaeth yn yr eglwys, fod angel neillduol yn warcheidwad i bob Cristion ar ei ben ei hun; ac ymddengys fod rhai o ymadroddion yr Ysgrythyr yn ffafriol i’r dyb hon. Gwel Mat. xviii. 10, ac Act. xii 15; a diwedd y salm hon (adn. 14-16) — fod Duw gydag ef (y duwiol) mewn ing, i’w wrandaw, ei waredu, ei ddyrchafu, a’i ogoneddu; ei ddigoni â hir ddyddiau, ac i ddangos iddo ei iachawdwriaeth. Dyma bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, i’r byd a’r bywyd sydd yr awr hon, ac i’r byd a’r bywyd a bery byth. Diogelwch wrth fyned trwy y byd, ac wrth fyned o hono, ac o hyny allan. Gall etifedd yr addewidion hyn orfoleddu mewn gorthrymderau, a llafar ganu

“A digon, digon, digon yw

Dy hyfryd bresonnoldeb gwiw;

Yn angeu ceidw hyn fi ’n fyw,

A boddlawn wyf yn awr.”

Gwnaeth Satan ddefnydd dichellgar o’r ymadroddion, “Efe a orchymyn i’w angylion am danat ti,” & c., yn ei ymosodiad, fel temtiwr, ar y Gwaredwr, pan y gosododd ef ar binacl y deml: Mat. iv. 5, 6. Esboniai Satan y geiriau fel addewid yn perthyn i’r Messïah; ac yn sicr nid oes dim i’w ddywedyd yn erbyn ei esboniad ef, canys yr oedd yr addewid yn perthyn yn arbenig iddo ef, yn nyddiau ei gnawd. Ond yr oedd yn gŵyrdroi athrawiaeth ymarferol y geiriau mewn modd teilwng o ddyfnderau Satan, pan yn eu defnyddio i geisio gan y Messïah demtio yr Arglwydd ei Dduw yn y ffordd a gymmerai efe. Ai tybed na feddyliai Satan am y geiriau nesaf (adn. 12), yn eu perthynas âg ef ei hun, wedi i’w demtasiwn hono gael ei throi yn ol yn yr atteb a roddodd Crist iddo. Ysgrifenwyd drachefn, “Na themtia’r Arglwydd dy Dduw,” sef “Ar y llew a’r asp y cerddi; y cenaw llew a’r ddraig a fethri,” neu, fel y cyfieitha rhai y rhan gyntaf o’r adnod, “Ar y sarph a’r wiber y sengi.” Yn sicr, cafodd hen demtiwr yr Adda cyntaf yn Eden flaenbrawf o gyflawniad yr addewid gyntaf yno o’r a Adda, Hâd y wraig, yn ei ymosodiad arno yn yr anialwch, pan y sangodd yn fuddugol ar yr hen sarph yn ei holl demtasiynau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help