Salmau 119 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM CXIX.5.11.ALEPH.

1Gwyn fyd y rhai sydd

Yn rhodio’n wŷr rhydd,

Yn nghyfraith yr Arglwydd —

Rai dedwydd bob dydd.

2A dedwydd iawn yw

Rhai geisiant eu Duw;

Ei ddeddfau a gadwant,

A byddant hwy byw.

3Anwiredd ni wnant,

A ch’wilydd ni chânt;

’R hyd ffordd dy orch’mynion,

Iôr, union yr ânt.

4Gorch’mynaist, O Dduw!

Yn fanwl in’ fyw

Wrth reol wir berffaith —

Dy gyfraith deg yw.

5O! am i mi gael

D’ arweiniad, Iôr hael,

I gadw d’orch’mynion

Yn ffyddlon heb ffael.

6Edrychwn fel hyn

Yn ngwyneb hardd gwyn

Dy ddeddfau glân union,

A chalon ddigryn.

7O’m calon, dy was

Glodfora dy ras;

Dy farnau, pan ddysgaf,

A hoffaf eu blas.

8Dy gyfraith di yw,

F’ hyfrydwch, O Dduw!

Na wrthod di mo’nwyf

Tra byddwyf fi byw.

M. C.

BETH.

9Pa fodd y ceidw llangc yn lân

Ei lwybr yn y byd?

Yn unig drwy ymgadw ’n ol

Dy eiriau di o hyd.

10A’m holl ddymuniad, O fy Nuw!

Y ceisiais di’n ddi‐lyth,

O! cadw fi rhag gŵyro oddi wrth

Dy gyfraith gyfiawn byth.

11Dy ymadroddion guddiais yn

Fy nghalon — cadwaf hwy,

Rhag im’ drwy amryfusedd ffol

Droseddu i’th erbyn mwy.

12Bendigaid wyt, O Arglwydd! dysg,

I’m gadw’th ddeddfau gwir,

13Minnau â’m genau traethu wnaf

Dy holl orch’mynion pur.

14Ymlawenychais yn dy air

Yn fwy na golud byd,

15-16Ac ar dy ddeddfau a’th ffyrdd y bydd

Fy myfyrdodau o hyd.

11au.

GIMEL.

17Bydd dda wrth dy was fel y byddwyf fi byw,

I gadw dy ddeddfau, O Arglwydd fy Nuw!

18Dadguddia fy llygaid fel gwelo dy was

Y mawr ryfeddodau sy’ ngeiriau dy ras.

19Pererin dyeithrol wyf fi yn y byd,

Na chudd di oddi wrthyf dy ddeddfau un pryd;

20Agorais fy ngenau, dyhëais fel hydd,

Gan awydd fy nghalon i’th farnau bob dydd.

21Ceryddaist y beilchion, dan felldith y maent,

Ar ffordd cyfeiliorni oddi wrth dy air aent;

22Dy ddeddfau a gedwais, O Arglwydd! na âd

Im’ fyned yn isel dan warth a sarhâd.

23Erlidiai t’wysogion fi’ n greulawn eu greddf,

Dy was di, er hyny, fyfyriai ’n dy ddeddf;

24Hyfrydwch fy enaid yw’th farnau dinam,

A’m doethion gynghorwyr drwy’m taith ar bob cam.

7.4.

DALETH.

25Mae fy enaid wrth y llaid

Wedi glynu;

’Nol dy air bywhâ fi, paid

A’m rhoi fyny;

26Traethais i dy ffyrdd, a thi

A’m gwrandewaist,

Dysg fi yn d’orch’mynion cu,

Fel ’r addewaist.

27Gwna i mi ddeall ffyrdd dy raith,

A llefaraf

Finnau am dy ryfedd waith,

Ac ni thawaf;

28Toddi mae fy enaid gan

Ei fawr wendid,

O! bywhâ, a dal fi i’r lan,

N’ol d’addewid.

29Cadw oddi wrthyf, O fy Nuw!

Ffordd y celwydd;

Dod i mi dy gyfraith wiw,

O’th raslonrwydd:

30Llwybrau dy wirionedd clir

A ddewisais,

Ac o’m blaen dy farnau gwir

A osodais.

31Wrth dy dystiolaethau drud

Yr ymlynais;

Na’d i’m fyn’d yn warth i’r byd

Llawn o falais:

32Yn awyddus rhedaf fi

Ffordd d’orch’mynion;

Arglwydd, pan eangech di

Ar fy nghalon.

M. S.

HE.

33Dysg fi yn ffordd dy ddeddfau da,

A mi a’u cadwa’n ffyddlon;

Gwna im’ eu deall yn ddigoll,

Cadwaf hwy â’m holl galon.

34-35Yn llwybrau ’th gyfraith hwylia’m traed,

Can’s ynddynt mae dedwyddyd:

36Cyfeiria ’m golwg at y nôd,

Nid at gybydd‐dod ynfyd.

37Tro ’m llygaid ymaith oddi wrth

Bob gwagedd swrth anfuddiol;

Bywhâ fi yn dy lwybrau mâd,

Lle caf fwynhâd sylweddol.

38Dy air i’th was, O! sicrhâ,

Yr hwn ymrodda i’th ofni:

39Tro oddi wrthyf bob gwaradwydd du;

Dy farnau cu wy’n hoffi.

40Awyddus ydwyf, gwyddost Iôn,

I’th lân orch’mynion beunydd:

Yn dy gyfiawnder gwna im’ fyw,

Tydi yw fy arweinydd.

7au.

FAU.

41D’oed i mi ’th drugaredd lawn,

Iachawdwriaeth fawr a’i dawn,

42’Nol dy air, fel gallwyf gau

Genau ’m cablydd sy’m sarhau;

Yn dy air gobeithio ’rwy’,

A dy gyfraith gadwaf mwy.

43O! na chymmer air dy ras,

Byth yn llwyr o enau ’th was:

Yn dy gỳfiawn farnau di

Mae fy nerth a’m gobaith i:

44Cadw wnaf dy gyfraith wiw

Byth, a byth, tra byddwyf byw.

45Rhodiaf mewn eangder rhydd,

A’th ddeddfau geisiaf nos a dydd:

46Sôn am danynt wnaf o hyd,

Yn hy’ ger bron brenhinoedd byd;

47Ymddigrifaf ynddynt mwy,

Hoffder f’ enaid ydynt hwy —

48Dyrchu’m dwylaw atynt wnaf;

Cerais i dy ddeddfau, Naf.

M. B.

ZAIN.

49O cofia’r gair i’th was,

Yr hwn o’th ras di ri

Y peraist i mi roddi gwaith

Fy ngobaith ynot ti.

50Hyn yw fy nghysur pur

Yn nydd y dolur dwys;

Dy air a’m bywiocâ yn fawr

Pan wyf dan boenfawr bwys.

51Y beilchion a’m casânt,

Ac a’m sarhânt o hyd;

Er hyn ni throais oddi wrth dy air,

Can’s ynddo cair fy mryd.

52Cofiais dy farnau gynt,

Ce’s gysur ynddynt hwy;

Ac arnynt hwy yn wir caiff fod

Fy holl fyfyrdod mwy.

53Daeth arnaf ddychryn pan

Y gwelwn anwir lu —

Yr annuwiolion ffol ar waith,

Yn mathru ’th gyfraith gu.

54Dy ddeddfau oedd fy nghân,

Wrth fyn’d yn mlaen i’m taith:

55’Rwy’n cadw ’th enw ’r nos mewn co’,

Ac yn myfyrio ’th raith.

56Mae hyn yn gysur im’,

Yn hedd â grym o hyd,

Am gadw o honof ger fy mron,

Dy holl orch’mynion drud.

8.7.4.

CHETH.

57Arglwydd ti yw’m hetifeddiaeth;

D’wedais cadwn d’eiriau drud:

58A’m holl galon yr erfyniais,

Am oleuni ’th wyneb‐pryd.

Bydd drugarog,

Wrthyf fi yn ol dy air.

59Am fy ffyrdd y dwys feddyliais,

Trois fy nhraed at ddeddfau ’r nef;

60Brysiais, ac nid oedais gadw,

Ei orch’mynion sanctaidd

61Er i’r annuw

Fy ysbeilio, cedwais d’ air.

62Hanner nos o’m gwely codaf

I foliannu d’ enw di,

Am dy dystiolaethau rhyfedd —

Trysor penaf f’ enaid i.

63Cyfaill ydwyf

Fi i bawb a’u carant hwy.

64Llawn yw ’r ddaear fawr o gyfoeth

Dy drugaredd, Arglwydd da;

Dysg i mi dy ddeddfau, felly

Minnau byth eu cadw wna’.

Ymddigrifaf

Beunydd yn dy ddeddfau di.

M. H.

TETH.

65Gwnaethost yn dda iawn â dy was,

Yn ol addewid gair dy ras;

66Dysg i mi wybod, deall mwy

O’th bur orch’mynion, credais hwy.

67Cyn fy nghystuddio, ar ŵyr yn mhell

Aethwn, ond dysgais d’ air yn well;

68Da ydwyt ti, mawr yw dy ddawn —

Dysg fi etto ’n well o lawer iawn.

69I’m herbyn i y beilchion sydd,

Yn clytio celwydd nos a dydd;

Ond â’m holl galon cadwaf fi

’N wastadol dy orch’mynion di.

70Eu calon hwy sydd yn brashau,

Fel torch o floneg yn tewhau;

Ond ymddigryfu ’r ydwyf fi

Yn wastad yn dy gyfraith di.

71Da i mi fy nghystuddio fu

Fel dysgwn gadw’th ddeddfau cu:

72Mae cyfraith d’enau i mi’n well

Na holl drysorau gwledydd pell.

7.6.

IOD.

73Dy ddwylaw â’m lluniasant,

O! dyro ddeall im’,

Fel dysgwyf dy orch’mynion,

Heb gyfeiliorni dim:

74Daw ’r rhai a’th ofnant ataf,

A hwy a lawenheir,

Wrth weled fod fy ngobaith

Yn wastad yn dy air.

75Mi wn mai cyfiawn, Arglwydd,

Yw dy holl farnau di,

Mai o’th ffyddlondeb tadol

Gwnait fy nghystuddio i;

76Pâr etto, ’r wyf yn erfyn,

I’th drugareddau rhad

Fy nghynnal a’m cysuro

Yn ol dy eiriau mâd.

77Parhaed dy garedigrwydd

Di etto at dy was,

Fel byddwyf byw i gadw

Dy ddeddfau gyda blas:

78C’wilyddier y rhai beilchion

Can’s gwnaethant dwyll o hyd,

Mewn dichell tuag ataf —

Heb achos yn y byd.

79Ond tröer y rhai a’th ofnant

Di ataf, fawr a mân,

Y rhai sydd yn adnabod

Dy dystiolaethau glân;

80A boed fy nghalon innau

Yn sicr a dilyth,

Ddiysgog wrth dy ddeddfau,

Fel na’m c’wilyddier byth.

6.8.

CAPH.

81Diffygiodd f’enaid am

Dy iachawdwriaeth di,

A disgwyl wrth dy air,

Yn ddyfal iawn ’rwyf fi.

82Fy llygaid sydd yn pallu am d ’air,

Pa bryd, pa bryd, y’m llawenhair.

83Fel costrel wyf mewn mŵg,

A’m golwg yn dra gwyw,

Ond nid anghofiais i,

Dy ddeddfau di, O Dduw!

84Pa nifer ydyw dyddiau ’th was?

Pa bryd y berni’m gelyn câs?

85Fe gloddia beilchion byd

Eu pyllau o hyd i mi;

Drygionus yw eu gwaith,

A chroes i’th gyfraith gu:

86Ar gam y’m herlidiasant, d’od

Di gymmhorth i mi er dy glod.

87Braidd na’m difasant i

Oddi ar y ddaear hon,

Ond dy orch’mynion di

A gedwais ger fy mron.

88Yn ol dy air, bywhâ dy was,

Fel cadwyf dystiolaethau ’th ras.

8.7.

LAMED.

89Yn y nef y mae dy eiriau,

Arglwydd, wedi ’u sicrhau,

90O genhedlaeth i genhedlaeth

Mae’th wirionedd yn parhau.

Ti osodaist seiliau ’r ddaear

Fawr, yn gedyrn a difêth:

91Wrth dy eiriau safant heddyw,

Can’s dy weision yw pob peth.

92Yn fy nghystudd blin yn ddiau

Darfuasai am danaf fi,

Oni buasai’r cordial cysur

Gefais yn dy gyfraith di.

93Byth ni anghofiaf dy orch’mynion,

A hwynt gwnaethost fy mywhau:

94Cadw fi, dy eiddo ydwyf —

D’eiddo fyddaf i barhau.

95Gwyliai ’r rhai drygionus arnaf

I’m distrywio ’n llwyr o’r byd;

Ond dy dystiolaethau grasol

A ystyriaf fi o hyd.

96’Rwyf yn gweled diwedd prysur

Pob perffeithrwydd yn nesau;

Ond y mae d’orchymyn cadarn

Di’n dragwyddol yn parhau.

9.8.

MEM.

97Mor anwyl yw genyf dy gyfraith,

Y hi yw’m myfyrdod o hyd;

98Drwy’th ddeddfau y’m gwnaethost yn ddoethach

Na’m cyfrwys elynion i gyd:

99-100Deallais yn well na’m hathrawon —

Yn well na henuriaid y wlad,

O herwydd dy ddeddfau fyfyriais;

A’th gyfraith a gedwais heb wâd.

101Atteliais fy nhraed yn ofalus,

O lwybrau drygionus y byd,

Fel y cadwn dy air —

102ac ni chiliais,

O lwybrau dy farnau un pryd;

103Mor felus yw d’eiriau i’m genau!

Melusach na’r mêl yn ddiau!

104A thrwy dy orch’mynion y pwyllais,

Bob llwybr drwg wyf yn gasau.

7au.

NUN.

105Llusern yw dy air i’m traed,

Mwya’i gwerth erioed a gaed:

Llewyrch ar fy llwybr cudd

Wna fy nos fel hanner dydd.

106Tyngais, a chyflawnaf fi,

Cadwn ffordd dy farnau di:

107Bûm gystuddiol yn y pair:

O! bywhâ fi yn ol dy air.

108’Rwy’n attolwg, Arglwydd, bydd

Foddlawn i’m hoffrymau rhydd;

Dysg fi yn dy farnau ’n ddoeth,

Fel y cadw’i ddeddfau coeth.

109Mae fy enaid yn fy llaw ’n

Wastadol, ond beth bynag ddaw

Nid anghofiaf d’eiriau ddim —

Cofio d’ eiriau yw fy ngrym.

110Gosod maglau i mi o hyd

Mae’r annuwiol drwg ei fryd;

Ond ni chyfeiliornais i

Gam oddi wrth d’orch’mynion di.

111F’etifeddiaeth lawn ddilyth

Fydd d’orch’mynion sanctaidd byth:

Hoffder f’enaid ydynt hwy,

Ac a fyddant hefyd mwy.

112Plygu at dy ddeddfau ’n llon

Mae fy nghalon ufudd hon:

Cadw ’th ddeddfau fydd ei gwaith

Byth, i dragwyddoldeb maith.

7.6.

SAMECH.

113Ni chaiff meddyliau ofer

Wneyd yn fy nghalon nyth:

Dy gyfraith di a hoffais,

Ac wrthi glynaf byth.

114Fy lloches a fy nharian

Wyt ti, fy Nuw, o hyd;

Ac yn dy air gobeithiaf

Tra byddaf yn y byd.

115Chwi, rai drygionus, ciliwch

Oddi wrthyf — rhoddwch le,

A llonydd, fel y cadwyf

Orch’mynion pur y Ne’.

116Yn ol dy air yn wastad,

O Arglwydd! cynnal fi:

Na âd im’ gywilyddio

O’m gobaith ynot ti.

117Dal fi — diangol fyddaf;

O! dal fi er dy glod:

Ac ar dy ddeddfau ’n wastad

Y caiff fy llygaid fod.

118Sethraist y rhai a giliant

Oddi wrth dy ddeddfau pur,

O herwydd mai twyllodrus

Yw eu dichellion sur.

119Ti fwriaist annuwiolion

Fel sothach yn y tân;

Am hyny hoffais innau

Dy dystiolaethau glân.

120Fy nghnawd a gryna, Arglwydd!

Gan arswyd, o’th flaen di,

Ac ofn dy farnau cyfion —

O! cynnal, nertha fi!

7.4.

AIN.

121Gwnaethum, gwyddost, Arglwydd, farn,

A chyfiawnder;

O na âd im’ fyn’d yn sarn,

I’r ysgeler:

122O! meichnïa dros dy was,

Er daioni,

Ac na âd i’r beilchion câs,

Fy ngorthrymu.

123Pallu mae fy llygaid am

Dy iachawdwriaeth,

Ac ymadrodd pur dinam,

Dy dystiolaeth:

124Edrych arnaf yn dy ras,

A’th drugaredd,

A dy ddeddfau geidw’th was,

Hyd y diwedd.

125Dy was ydwyf — dysg i mi

Wir wybodaeth,

Yn dy ddeddfau sanctaidd di

A’u hathrawiaeth:

126Cyfod, Arglwydd, at dy waith,

Mae’n llawn amser;

Dynion sy’n diddymu ’th raith,

’Nol eu harfer.

127Hoffais i uwch law aur coeth,

Dy orch’mynion;

Yn mhob peth y maent yn ddoeth,

Ac yn union:

128Minnau ydwyf yn parhau

Byth i’w gwneuthur,

Ac o’m calon yn cashau,

Pob gau lwybr.

6.6.4.

PE.

129Dy dystiolaethau drud,

Rhyfeddol y’nt i gyd,

Mi a’u cadwaf mwy:

130Agoriad d’eiriau rydd

Oleuni fel y dydd,

A’r rhai ’n ddiddichell sydd

A’u deall hwy.

131Dyheu ’rwyf megys hydd

Yn lludded gwres y dydd,

Am d’ eiriau byw:

132Tro ataf, trugarhâ

Ar frys — i minnau gwna

’Nol d’arfer i’r rhai da,

Sy’n caru eu Duw.

133O! hwylia ’m camrau ’nol

Dy air, fel na b’wyf ffol,

Mewn nwyd a nam:

134A gwared fi rhag gŵg,

Gorthrymder dynion drwg:

Yn ffordd d’orch’mynion dwg

Fi ’mlaen bob cam.

136Afonydd heilltion sydd

Yn rhedeg nos a dydd,

O’m llygaid llawn:

Yr wyf yn glaf dan glwy’,

A gofid fwy na mwy,

Am na chadwasant hwy.

Dy ddeddfau ’n iawn.

8.7.

TSADI.

137Cyfiawn ydwyd ti, O Arglwydd!

Uniawn yw dy farnau llawn;

138A dy dystiolaethau ydynt

Oll yn bur a ffyddlawn iawn:

139Mae fy sêl yn difa ’m hysbryd,

Gan eiddigedd tanllyd cry,

Am fod fy ngelynion ynfyd

Yn anghofio d’eiriau cu.

140Dirfawr purwyd dy ymadrodd

Ac am hyny mae dy was

Yn ei hoffi yn ei galon

Wrth fwynhau ei beraidd flas:

141Bychan ydwyf, a dirmygus,

’Ngolwg plant y ddaear hon;

Ond ni anghofiais dy orch’mynion,

Maent yn wastad ger fy mron.

142Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder

Bur, tragwyddol i’w fwynhau;

A dy gyfraith sydd wirionedd,

Ansigledig i barhau:

143Adfyd blin, a chystudd caled,

A’m gorfuant lawer gwaith,

Ond d’orch’mynion fu’m digrifwch,

Ar bob cam o’m dyrus daith.

144Cyfiawnder dy dystiolaeth gu

A bery yn dragywydd;

Gwna i mi ddeall, O fy Nuw!

A byddaf byw yn ddedwydd.

M. S.

COPH.

145Mi lefais arnat — Arglwydd, clyw!

Dy ddeddfau gwiw a gadwaf:

146Do, llefais arnat — yn ddiau

Gwrandewaist dithau arnaf.

147Achubais flaen y cyfddydd cain,

Yn mrig y plygain, gwaeddais;

Ac am dy eiriau gwerthfawr mâd

Yn wastad y disgwyliais.

148Fy llygaid erys fyth heb gau

’Ngwyliadwriaethau ’r cyfnos;

O hwyr i hwyr, ac felly cair

Hwy yn dy air yn aros.

149O! clyw fy llef, a gwrandaw ’nawr

Yn ol dy fawr drugaredd;

Bywhâ fi ’n ol dy farnau hael,

Pâr i mi gael ymgeledd.

150Rhai ânt ar ol ysgeler chwant,

A gydnesasant arnaf;

Oddi wrth dy gyfraith di ’n ddiau

Maent yn pellhau i’r eithaf.

151Ond agos, Arglwydd, ydwyt ti,

D’orchmynion sy’ wirionedd;

152A gwyddwn it’ eu seilio hwy

I bara mwy ’n ddiddiwedd.

M. C.

RESH.

153-154O! gwel fy nghystudd, gwared fi —

Yr ydwyf yn y pair;

A dadleu ’m dadl, bydd o’m plaid,

Can’s nid anghofiais d’air.

155Pell yw dy iachawdwriaeth di

Oddi wrth yr anwir rai;

Dy ddeddfau ni cheisiasant hwy —

Glynasant yn eu bai.

156Dy drugareddau, Arglwydd, ynt

Yn aml iawn eu rhi’:

Yn ol dy ras a’th farnau gwir

Bywhâ, a nertha fi.

157Mae llawer beunydd yn eu llid

Yn f’ erlid, ond myfi

Ni throis, ni throaf chwaith oddi wrth

Dy dystiolaethau di.

158Pan welais y troseddwyr ffol

Gresynais am eu bod

Yn gwrthod cadw ’th gyfraith, gan

Ei sathru dan eu troed.

159O Arglwydd! gwel, ti wyddost fel

’Rwy’n caru ’th gyfraith bur,

Bywhâ fy enaid llesg yn ol

Dy drugarawgrwydd gwir.

160Gwirionedd o’r dechreuad yw

Dy air; ac mae pob un

O’th gyfiawn farnau yn parhau

Byth megys ti dy hun.

8au.

SCHIN.

161Tywysogion a’m herlidiant

Heb un achos, ac ni pheidiant;

Ofn dy eiriau di er hyny

’N unig bair i’m calon grynu.

162Etto, llawen wyf dan grynu,

O blegid d’ air ’rwyf yn ei garu;

Ynddo llawen wyf bob amser

Fel un ga’i ysglyfaeth lawer.

163Celwydd adgas a gaseais,

A dy gyfraith di a hoffais;

164Seithwaith yn y dydd clodforaf

D’ enw am dy farnau puraf.

165Heddwch mawr fydd i’r rhai perffaith

Sydd yn caru’th union gyfraith:

Nid oes dramgwydd byth yn llwybrau

’Rhai a rodiant yn dy ddeddfau.

166Wrth dy iachawdwriaeth anwyl

Yr wyf fi o hyd yn disgwyl:

167-168Gwnaethum, cedwais dy orch’mynion

Gyda mawr hyfrydwch calon.

Ffyrdd dy farnau pur a gedwais,

A dy dystiolaethau gredais;

Mae’m holl ffyrdd i ti yn amlwg —

Wyf yn wastad yn dy olwg.

8.7.

TAU.

169-171Doed fy ngwaedd hyd atat, Arglwydd,

Doed fy ngweddi ger dy fron;

Dysg fi’n d’ air, a minnau draethaf

Foliant i ti â chalon lon.

172Dadgan d’ eiriau wna’m gwefusau

O barodrwydd ysbryd llawn,

Am eu bod hwy ’n eiriau purion,

Cedyrn oll, a ffyddlawn iawn.

173Boed dy law i’m cynnorthwyo,

Cedwais dy orch’mynion di:

174Am dy iachawdwriaeth, Arglwydd,

Yr hiraetha f’ enaid i.

Fy hyfrydwch yw dy gyfraith;

175Cadw f’ enaid tlawd yn fyw,

Fel molianno ef dy enw,

Yn wastadol, O fy Nuw!

176Cyfeiliornais megys dafad

Wedi colli:— cais dy was;

Brefu ’r wyf mewn anial sychlyd,

Am borfeydd dy hyfryd ras.

Nodiadau.

Gelwir hon genym y “Salm Fawr,” a salm fawr mewn gwirionedd ydyw yn mhob ystyr. Mawr yn ei hyd — cyhyd ddwywaith a’r hwyaf un o’r lleill; mawr yn ei thestyn, ei sylw, a’i chynnwysiad; a mawr yn nghywreindeb a manylrwydd ei chyfansoddiad. Gellir casglu yn bur naturiol mai myfyrdodau Dafydd ar wahanol amserau yn ei fywyd ydyw; a darfod iddo, yn ei hen ddyddiau, grynhoi y myfyrdodau hyny o’i ddyddlyfr, a’u bwrw i’r ffurf hon, i’w cadw ynddi fel trysor i eglwys Dduw drwy yr holl oesau. Cynnwysa y salm ddwy ar hugain o ranau, yn ol rhif llythyrenau yr egwyddor Hebraeg. Cynnwysa pob rhan wyth o bennillion byrion, pob pennill yn dechreu â’r llythyren a saif uwch ben y gyfran — pob pennill yn y rhan gyntaf yn dechreu â’r llythyren A, ac felly o’r naill brif lythyren i’r llall drwy y salm, o’r dechreu i’r diwedd. O ran ei dullwedd, y mae yn debycach i Ddiarhebion Solomon nag ydyw i salmau ereill Dafydd. Saif yr ymadroddion gan mwyaf wrthynt eu hunain, yn annibynol y naill ar y llall; ond dilynir ar y testyn yn ddiŵyro o’r dechreu i’r diwedd; ac nid oes ond un pennill ynddi (yr 122ain) nad yw yn enwi y testyn dan un neu arall o’i deitlau. Y testyn hwnw yw, Gair Duw — y dadguddiad o’i ewyllys ef yn yr Ysgrythyrau sanctaidd. Dynodir ef wrth yr enwau y gair, tystiolaethau, gorchymynion, deddf, cyfraith, barnedigaethau, cyfiawnder, & c. Dengys y Salmydd mor werthfawr oedd y gair dwyfol yn ei olwg, mor ddirfawr yr oedd yn ei hoffi, mor ddibaid yr oedd ei fyfyrdod arno, mor ddwfn oedd ei hyfrydwch ynddo, mor angerddol oedd ei awydd i’w ddeall, ac mor gryf oedd ei ddymuniad i’w gadw, a byw yn ei ol. Nid oedd ond llyfrau Moses yn unig, mae’n debygol, yn ysgrifenedig yn amser Dafydd; toriad gwawr y goleuni mawr yn unig oedd ganddo ef i edrych arno, ac etto gymmaint a ddywed y gwyliwr hwn am y boreu, am ogoniant a gwerth goleuni y wawr hono! Pa faint helaethach yw y manteision a’r rhagorfreintiau sydd genym ni, na manteision a rhagorfreintiau y Salmydd! ac etto, pwy o honom sydd yn gwerthfawrogi ac yn mawrhau y Gair, fel yr oedd efe? Saif Dafydd yn y salm hon yn “dyst cyflym” yn erbyn esgeuluswyr a dirmygwyr Gair yr Arglwydd, heb fod ganddynt ewyllys iddo. Y mae llawn cymmaint, os nad mwy, o ysbryd duwiolfrydig y Salmydd i’w weled a’i deimlo yn y salm hon nag sydd mewn un o’r salmau ereill a ysgrifenwyd ganddo; a’r hwn a allo fyned i mewn i’w ysbryd a’i brofiad ef wrth ei darllen neu ei chanu, y mae yn nefoedd ar y ddaear arno.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help