1Clodforaf di a chalon rwydd,
A hyny yn ngŵydd y duwiau wnaf;
2Ymgrymaf tua’th deml lân,
Mewn mawl a chân, tydi fawrhâf:
Am dy drugaredd fawr a’th hedd,
Am dy wirionedd pur digoll;
Can’s ti fawrheaist air dy lŵ,
O Arglwydd! uwch dy enw oll.
3Y dydd y llefais dan fy mhwn,
O Arglwydd! gwn, gwrandewaist di;
Anfonaist hefyd nerth wrth raid
I gadarnhau fy enaid i:
4Daw holl frenhinoedd daear lawr,
O Arglwydd mawr! i ganu’th glod,
Pan glywant eiriau d’ enau gwiw —
Nid oes fath eiriau byw yn bod.
5Hwy ganant am dy ryfedd ffyrdd,
A’th ddoniau fyrdd yn felus iawn,
Can’s mawr yw dy ogoniant cu,
’N y nefoedd fry a’r ddaear lawn:
6Er bod ein Duw ’n uchelder nef
Fe genfydd ef yr isel rai;
Yr holl rai beilchion, ffrom eu gwedd,
A dỳn i’r bedd o dan eu bai.
7Pe rhodiwn mewn cyfyngder du,
Estynit ti dy gadarn law,
I’m dal i fyny a tharo i lawr
Fy holl elynion, fawr a mân:
8Yr Arglwydd a gyflawna â mi;
Mae dy drugaredd di ’n parhau,
Nac esgeulusa waith dy law;
O! cadw draw bob gelyn gau.
Nodiadau.
Yn y salm hon yr ydym yn cyfarfod â Dafydd unwaith drachefn, a chedwir ni yn ei gymdeithas ef hyd Salm cxlvi. Gellir tybio mai wedi iddo gael ei sefydlu yn ei frenhiniaeth ar Israel y cyfansoddodd efe y salm yma, yn yr hon y cydnebydd yn ddiolchgar ddaioni yr Arglwydd tuag ato, yn ei waredu o’r holl beryglon a’r trallodion y buasai ynddynt, ac yn ei ddyrchafu o gyflwr mor isel i’r sefyllfa uchaf a mwyaf anrhydeddus. Adduneda ganu clodydd ei Dduw a’i waredydd yn ngŵydd y duwiau — brenhinoedd cymmydogaethol iddo; ac ymgysura yn y gobaith y deuent hwythau i’w glodfori ef, pan glywent ei eiriau, a hanes y gweithredoedd a wnaethai. Daeth un, o leiaf, o’r brenhinoedd hyny i wneyd felly yn nyddiau Dafydd ei hun; sef, Hiram, brenin Tyrus, yr hwn oedd hoff ganddo Dafydd bob amser: 1 Bren. v. 1. Bu yn gynnorthwywr caredig a galluog i Solomon i adeiladu y deml, drwy anfon iddo goed lawer, a gweithwyr cywrain at y gwaith: ac wrth atteb cais Solomon am ei gynnorthwy, y mae efe yn bendithio Duw Israel yn wresog iawn; felly, yn canu am ffyrdd yr Arglwydd: 2 Cron. ii. 11, 12.
Oddi ar adgofion o waredigaethau Duw iddo o’r trallodion blaenorol, traetha y Salmydd ei hyder y byddai iddo ei waredu etto o bob trallod a ddigwyddai iddo (“Pe rhodiwn yn nghanol cyfyngder, ti a’m bywhëit,” & c.), ac y cyflawnai efe bob addewid a wnaethai iddo ef ac i’w dŷ. Dedwydd yw y pur o galon sydd fel hyn yn gweled ac yn cydnabod llaw Duw yn holl gyfyngderau a gwaredigaethau ei fywyd, ac yn dysgu ymddiried ei hun a’i holl amgylchiadau i’w ofal ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.