1Trugaredd yr Arglwydd ddadganaf fi byth,
A’m genau fynega ’i wirionedd dilyth;
O oes i oes traethaf am danynt heb ball,
A’u clodydd a redant o’r naill wlad i’r llall.
2Can’s d’wedais, Adeilir trugaredd mewn bri,
Hyd byth yn y nef sicrheir dy air di;
A saif dy wirionedd heb gynnyg osgoi,
Pan f’o haul a lleuad o’u cylchoedd yn ffoi.
3Myfi, medd Iehofah, i Dafydd fy ngwas,
A dyngais yn ffyddlawn wirionedd fy ngras;
4Dy had yn dragywydd a wnaf sicrhau,
A’th orsedd byth bythol a wnaf gadarnhau.
5A’r nefoedd, O Arglwydd! a’th folant mewn braint,
A’th hyfryd wirionedd yn nhyrfa y saint;
6Can’s pwy yn y nef a gystedlir â’n Duw?
Pwy iddo ’n gyffelyb ’mysg cedyrn y byw?
7Ofnadwy ’n ’nghyn’lleidfa y saint yw efe,
Arswydlawn yn holl faith amgylchoedd ei le;
8O Arglwydd Dduw ’r lluoedd! pwy sydd fel tydi,
Yn gadarn Iôr sanctaidd, anfeidrol ei fri?
Rhan II.11au.
9Ti sy’n llywodraethu hyd ymchwydd y môr,
Pan godo ei donau gostegi hwy, Iôr!
10Ti ddrylliaist yr Aipht yn lluddedig, â nerth
Dy fraich y gwasgeraist d’ elynion diwerth.
11Y nefoedd, O Arglwydd! sy’n eiddo i ti,
A’r ddaear hon, hithau, dy eiddo yw hi:
12Ti greaist y gogledd a’r deheu ar daen,
A Thabor a Hermon lawenant o’th flaen.
13Y mae i ti fraich a chadernid, O Dduw!
Dy law sydd yn gadarn, ac uchel iawn yw
Dy nerthol ddeheulaw:—
14gosodwyd dy sedd
Ar farn, a chyfiawnder, trugaredd, a hedd.
15Gwyn fyd hwy adwaenant hyfrydlais dy hedd,
Hwy rodiant, O Arglwydd! yn llewyrch dy wedd;
16Yn d’ enw di beunydd yr ymlawenhânt,
Ac yn dy gyfiawnder ymddyrchu a wnant.
17Can’s mawr odidawgrwydd eu nerth ydwyt ti,
Ac yn dy foddlonrwydd dyrchefi ’n corn ni;
18Can’s Duw yw ein tarian, a’n gwobr mawr iawn:
Sanct Israel yw ’n Brenin — ei enw mawrhawn.
Rhan III.8.7.
19Yna â’th Sanct, mewn gweledigaeth,
Ymddiddenaist ti, O Dduw!
D’wedaist, Mi osodais gymmhorth
Tlodion ar un cadarn byw;
Un o’r bobl a etholais,
20Cefais Dafydd bur, fy ngwas,
Ac eneiniais ef â’m holew,
Olew penaf oll fy ngras.
21Gydag ef fy llaw sicrhëais,
Drosto mae ’m deheulaw gref,
22Ni cha’r gelyn ei orthrymu,
Na’r mab gau ’i flino ef:
23Mi a goethaf ei elynion —
Oll o’i flaen, tarawaf hwy:
24Fy ngwirionedd a’m trugaredd
Byth a’i cadwant yn ddiglwy’.
25Ar y môr ei law osodaf,
A’i ddeheulaw gadarn fydd
Ar afonydd pell,
26ac yntau
Eilw ar f’ enw i bob dydd:
Dywed ef, Tydi, IEHOFAH,
Yw fy Nhad, ac ynot ti,
Duw a Chraig fy iachawdwriaeth,
Byth yr ymddiriedaf fi.
27Minnau a’i gwnaf yntau ’n gynfab,
Uwch brenhinoedd pena’r byd;
28Cadwaf iddo fy nhrugaredd
A’m cyfammod sicr, drud:
29Yn ddiogel byth gosodaf
Fi ei had, a’i orsedd ef,
Fel parhaont yn wastadol,
Fel y pery dyddiau ’r nef.
30-31Os ei feibion a adawant
Fy nghyfreithiau, ac ni wnant
Ddal i gadw fy ngorch’mynion,
Os o ffordd fy neddfau ’r änt,
32Mi ymwelaf â’u camweddau
Gyda gwialen cerydd tad,
A’u hanwiredd â ffrewyllau
Er eu haddysg a’u gwellhâd.
33Ond ni thoraf fy nhrugaredd —
Pery hono yn ddilyth;
Ac ni phallaf o’m gwirionedd,
Iddo pery ’n sicr byth:
34Mi ni thoraf fy nghyfammod —
Ni newidiaf, doed a ddêl,
Yr un gair a ddaeth o’m genau —
Maent bob un dan sicr sêl.
35Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd
Na ddywedwn eiriau gau
Wrth fy ngwasanaethwr Dafydd —
Cânt bob un eu cwblhau:
36Bydd ei hâd ef yn dragywydd,
A’i orseddfaingc — erys hon
I ddisgleirio mewn gogoniant,
Fel yr haul byth ger fy mron.
37Sicrheir ef yn dragywydd
Fel y lleuad — a bydd ef,
Sy’n parhau o hyd drwy ’r oesau,
Fel tyst ffyddlawn yn y nef.
Rhan IV.7.6.
38Ond Ow! ti a wrthodaist
Ac a ffieiddiaist, do,
A digiaist wrth d’ Eneiniog,
39Diddymaist d’ air âg ’o!
Ei goron a halogaist,
A theflaist hi i lawr,
40A drylliaist ei holl gaeau
’N adwyau llydain mawr.
41Yn awr yr holl fforddolion
Ysbeiliant ef yn rhydd;
Mae ’n warthrudd i’w gym’dogion,
A’u cân ar hyd y dydd:
42Dyrchefaist draws ddeheulaw
Ei wrthwynebwyr câs,
Ac felly llawenheaist
Elynion dig dy was.
43Ti dröaist fin ei gleddyf,
Ni chadarnheaist ef
Mewn rhyfel —
44gwnait i’w harddwch
Ddarfod o dan y nef;
Ti fwriaist ei orseddfaingc
O’i freiniol fri i lawr,
45Byrhëaist ddyddiau ’i ie’ngctid,
Rhoist arno g’wilydd mawr.
46Pa hyd? ai yn dragywydd
’R ymguddi, Arglwydd glân?
A losga dy ddigofaint
Di o hyd fel ysol dân?
47O! cofia mai byr amser
Sydd imi — pa’m gwnait greu
Plant dynion oll yn ofer,
Mewn blinder i ddyheu?
48Pa ŵr fydd byw heb weled
Marwolaeth gaeth ei gwedd?
A geidw ef ei enaid
Yn rhydd o law y bedd?
49P’ le mae ’th hen drugareddau?
O Arglwydd! p’ le maent hwy
A dyngaist gynt i Dafydd?
A ddarfu am danynt mwy?
50O Arglwydd! cofia w’radwydd
Dy weision — wyf o hyd
Yn gludo yn fy mynwes,
Gan fawrion beilchion byd!
51A’r hwn y gwaradwyddodd
D’ elynion di, O Dduw!
A’r hwn y gw’radwyddasant
Ol traed d’ Eneiniog gwiw.
Corgan.52Bendigaid fyddo ’r Arglwydd
Drwy ’r ddaear lawr a’r nen —
Bendigaid fyddo ’i enw
Byth, byth. Amen, Amen.
Nodiadau.
Y mae yn bur debygol, ond nis gellir bod yn sicr, mai brawd oedd yr Ethan hwn i Heman, awdwr y salm o’r blaen. Peth cyffredin ydyw bod yr un enwau yn treiglo mewn teuluoedd o genhedlaeth i genhedlaeth. Dodai rhieni y ddau Salmydd hyn (os gwŷr o lwyth Iudah oeddynt) enwau cyndadau y teulu, Heman ac Ethan, meibion Zera, mab Iudah, arnynt o barch i goffadwriaeth y gwŷr hyny; ac nid heb reswm neillduol am hyny, canys yr oedd clod y ddau gyntaf am ddoethineb yn uchel drwy yr holl genhedlaethau, fel y gwelir yn 1 Bren. iv. 31, lle y dywedir am Solomon — “Ië, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Ezrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda,” & c.
Ymddengys yn debygol, oddi wrth lawer o ymadroddion yn y rhan olaf o’r salm, mai yn fuan wedi goresgyniad Ierusalem a chaethgludiad Zedeciah, brenin diweddaf Iudah, i Babilon y cyfansoddwyd hi, pan yr ymddangosai i olwg y Salmydd a’r ffyddloniaid yn gyffredinol, bod yr Arglwydd wedi tori ei gyfammod â Dafydd, am yr hwn y traethir ac y cenir yn odidog iawn yn y rhan flaenaf. Y mae y salm fel y golofn oedd yn myned o flaen gwersyll Israel drwy y Môr Coch, âg iddi ochr oleu ac ochr dywyll:— yr un oleu, y rhan flaenaf, yn oleu a disglaer iawn; a’r un dywyll, y rhan olaf, yn dywyll a du arswydlawn. Megys y mae Heman, yn y salm o’r blaen, yn achwyn yn chwerwdost o herwydd ei drallod ei hun, y mae Ethan yntau, yn y rhan olaf o’r salm hon, yn achwyn o herwydd adfyd y genedl, ac yn neillduol brenhiniaeth tŷ Dafydd; ac yn wir, ni adferwyd y frenhiniaeth hono byth yn dymmorol; ond adferwyd hi yn ysbrydol yn Nghrist. Profwyd yn oleu ynddo ef yr hyn oedd yn dyrysu ac yn trallodi meddwl y Salmydd hwn a’i gyfeillion; sef, nad oedd y cyfammod a’r llŵ i Dafydd wedi eu tori, na’u hanghofio. Ynddo ef blodeuodd corn Dafydd eilwaith, a chadarnhawyd ei orseddfaingc yn dragywydd. Coffhâ Ethan yma eiriau y cyfammod a’r llŵ i Dafydd, yn y rhai yr oedd y Messïah yn arbenig yn cael ei olygu a’i addaw; ond ymddengys nad oedd gan Ethan ddirnadaeth oleu am hyny — yr hyn a barai fod ei gŵynion mor drymion, a’i obeithion mor sigledig. Y mae llawer o drallodion ysbrydol saint y Beibl, a saint pob oes yr un modd, yn codi oddi ar ddiffyg dirnadaeth oleu a chywir o ystyr, amcan, a dyben goruchwyliaethau Duw yn ei ragluniaeth, ac o’i dystiolaethau a’i addewidion yn ei air.
Y mae Ethan yn niwedd y salm, ar ol cwyno yn dost, yn troi i weddïo yn daer am i’r Arglwydd edrych yn dosturiol ar gyflwr adfydus ei bobl, a chofio ei gyfammod, ac ymweled â hwy yn ei raslonrwydd; ac yn terfynu dan fendithio Duw yn wresog iawn, mewn ychydig eiriau. Mae y salm yn bur debyg i ambell ddiwrnod pan gyfyd yr haul ar foreugwaith digymmylau, ac y pery yn desog a hyfryd hyd ganol y dydd, pryd yr ymgasgla y cymmylau, ac y tỳr tymmhestl arswydlawn o fellt, a tharanau, a gwlaw allan drwy y prydnawn; a’r cymmylau yn chwalu drachefn yn yr hwyr, a’r haul yn tywynu yn hyfryd ar ei fachludiad. Felly yn union y mae Ethan a’i salm. Yr ydym yn ei golli o’r golwg ar ol yr un waith hon; ond cawsom salm ogoneddus ganddo. Ac yn ei salm ef terfyna y trydydd dosbarthran o’r salmau, yn ol y dosbarthiad Hebreaidd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.