1Pa’m, Arglwydd, ’rwyt yn ymbellhau
Pan mae cyfyngder yn nesau?
2Pâr gael o’r balch annuwiol ddyn
Ei ddal yn ei fwriadau ’i hun.
3Ymffrostio yn ei ddrwg a wna,
Yn mryd ei galon llawenhâ;
Bendithia ef y cybydd gau,
Yr hwn mae’r Arglwydd yn gasau.
4Gan uchder ffroen ni cheisia Dduw:
Duw yn ei feddwl ef nid yw;
5Ei ffyrdd sydd flin, mae barnau’r nef
Yn uchel iawn o’i olwg ef.
6O fewn ei galon dywed e’,
‘Ni syflir mo’nwyf byth o’m lle,
Ni welaf ddrygfyd — caf fwynhau
Heddwch a gwynfyd i barhau.’
7Ei enau o felldith sydd yn llawn;
A thwyll, a dichell creulawn iawn,
A chamwedd, ac anwiredd sydd
O dan ei dafod nos a dydd.
8Cynllwyn ger llaw’r pentrefi bydd,
Gan lechu mewn dirgelfan gudd:
Ei lygaid dremiant ar y tlawd,
Mewn awydd am gael rhwygo’i gnawd.
9Fel llew’n ei ffau, cynllwyno mae
I ddal y tlawd, a’i ddwyn i’w ffau;
Ac yn ei rwyd, y truan gwan,
A ddeil ond odid yn y man.
10Ymlecha fel tu ol i berth
I wylio’i ddyrys faglau certh,
Nes gwelo dorf o druain rai
Yn syrthio ynddynt er eu gwae.
11Ac iaith ei galon ynfyd yw,
‘Diogel wyf: anghofiodd Duw;
Ei wyneb guddiodd:— ef ni’m gwel,
Mi wnaf f’ ewyllys, doed a ddêl.’
Rhan II.12O Arglwydd! cyfod o’r nef draw,
Dyrcha, O Dduw! d’ alluog law;
A chofia di’r cystuddiol rai,
A brysia atynt i’w rhyddhau.
13Pa ham dirmyga’r anwir Dduw?
Pa hyd fel hyn y caiff ef fyw?
Dywedodd yn ei galon ffol,
Nid ymofyni ar fy ol.
14Ti welaist y drygionus ddyn
I roddi tâl â’th law dy hun;
Am hyny, ar dy gadarn fraich
Y pwysa gweiniaid dan eu baich.
15Tòr fraich y traws annuwiol ddyn,
A chais ei feiau bob yr un;
Tâl iddo ’nol haeddiannau ’i ddrwg,
A chwymped dan dy gyfiawn ŵg.
16Iehofah sydd yn frenin byth,
Ar ei orseddfa lân ddilyth;
Yr holl genhedloedd, â’i fraich gref,
Dyfethwyd hwy o’i randir ef.
17Duw! clywaist gŵyn y tlodion rai,
A pharotoi eu calon wnai
I alw arnat dan eu clwy’,
A’th glust a wrendy arnynt hwy.
18I farnu pob amddifad un,
A’r gorthrymedig, druan ddyn,
Fel na chwanego’r traws yn hwy
I beri ofn na blinder mwy.
Nodiadau.
Nid oes o flaen y salm hon na theitl nac enw ei hawdwr; a hyny, fe ddichon, o herwydd mai parhâd o’r salm o’r blaen ydyw: ac un salm yw y ddwy yn y Deg a Thrigain a’r Vulgate; ond yn yr Hebraeg gwreiddiol y maent yn ddwy, fel y maent genym ni. Ond myn rhai nad Dafydd yw ei hawdwr: ei bod yn ddiweddarach na’i amser ef. Y mae llawer o ddelw Dafydd arni, fodd bynag; ac y mae yn dwyn llawer o gyffelybrwydd i’r salm o’i blaen. Calon a buchedd y traws a’r gorthrymwr creulawn sydd yn cael eu dynoethi yn eu holl erchylldod ger ein bron yn y salm hon. Olrheinir holl greulonderau a thrawsder y gorthrymwr a bortreadir yma i’w gwreiddiau — balchder, ac annuwiaeth ei galon. “Nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef;” fel y barnwr anghyfiawn yn y ddammeg, “yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn.” Y galon amddifad o ofn Duw nid oes ynddi barch i ddyn chwaith. Y mae rhyw gymmaint a rhyw fath o ofn Duw yn meddwl dyn yn well na’r amddifadrwydd hollol o hono; gan y gwna, i ryw fesur, ffrwyno ac attal llygredigaeth y galon i dori allan yn ei lawn rwysg. “Y mae y cythreuliaid hefyd yn credu ac yn crynu.” Y mae y dyn a ddisgrifir yma yn waeth na’r cythreuliaid: canys nid ydyw efe yn ofni nac yn crynu dim. Gweddïa y Salmydd yn daer yn erbyn y gŵr traws hwn, ac am ei gwymp buan; a hyny mewn modd y byddai llaw Duw i’w gweled yn amlwg ynddo. Anaml y mae dynion o fath yr hwn a ddisgrifir yma yn cael myned o’r byd hwn heb i’r Arglwydd roddi tâl iddynt â’i law ei hun (fel y dywed y Salmydd yma), mewn arwyddion amlwg o’i anfoddlonrwydd i’w herbyn. Torwyd ymaith fel hyn aml i orthrymydd ac erlidiwr creulawn yn Nghymru o dro i dro.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.