1Clodforwch, rhoddwch fawl i Dduw,
O herwydd da a graslawn yw,
Byth pery ei drugaredd ef;
2Dyweded Israel yn glau,
Fod ei drugaredd e’n parhau,
Byth yn dragywydd yn ddiblê.
3Tŷ Aaron d’weded, heb wanhau,
Fod ei drugaredd e’n parhau,
Hyd byth, heb arni drai na gwall:
4Y rhai a ofnant enw Iôn,
Na thawant hwythau byth a sôn
Bod ei drugaredd e’n ddiball.
5Mewn ing ar Dduw y gelwais — aeth
Fy llef i’r nef, a’i gwrandaw wnaeth,
A dug fi o’m cyfyngderau’n rhydd:
6Y mae Iehofah yn fy mhlaid,
Nid ofnaf beth wna dyn — pa raid?
Gwnaed ef ei waethaf im’ bob dydd.
7Yr Arglwydd Iôr, mae ef o’m tu,
Yn mhlith fy nghynnorthwywyr cu —
Caf wel’d f’ewyllys ar fy nghâs;
8-9Gwell yw gobeithio ynddo ef,
Nac mewn un dyn o dan y nef,
Nac yn nh’wysogion daear las.
Rhan II.8.8.8.
10-11Yr holl genhedloedd yn eu llid,
A’m hamgylchasant o un fryd;
Yn enw’r Arglwydd drylliaf hwy:
12Hwynthwy, fel gwenyn, ddoent yn llu
O’m cylch: yn enw’r Arglwydd fry
Mi a’u t’rawaf fel na chodant mwy.
13Gan wthio im’ gwthiai’r gelyn câs,
Fel syrthiwn; ond fy Nuw o’i ras
A’m daliodd —
14ef yw’m nerth a’m cân;
Efe sy’n iachawdwriaeth im’,
Am hyn nid ofna’m henaid ddim;
Clodforaf byth ei enw glân.
15Llef mawl ac iachawdwriaeth sy’
Yn mhebyll y cyfiawnion cu;
Yr Arglwydd wna rymusder mawr:
16Dyrchafwyd ei ddeheulaw gre’,
Grymusder mawr a wnaeth efe,
Tỳn ei elynion oll i lawr.
17Myfi, ni byddaf farw, ond byw;
Mynegu wnaf weithredoedd Duw:
18Er iddo’m cospi, ef ni rodd
Mo honof i farwolaeth ddim;
19Agorwch byrth cyfiawnder im’ —
Af iddynt, molaf Dduw o’m bodd.
20Wel, dyma borth yr Arglwydd nef,
I mewn ’r ä’r cyfiawn iddo ef;
Af finnau i mewn, a molaf di:
21Am i ti’m gwrandaw, ac am dy fod
Yn iachawdwriaeth im’, rhof glod
I’th enw, ac ni thawaf fi.
Rhan III.8.7.
22Y maen wrthodai’r adeiladwyr,
Aeth yn ben i’r gongl a’i bri;
23Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd,
Rhyfedd yw i’n golwg ni:
24Dyma’r dydd a wnaeth Iehofah,
Achub, O ein Duw! yn awr;
25Dyma’r pryd ’rym yn attolwg,
Arglwydd, anfon lwyddiant mawr,
26Bendigedig fyddo’r Arglwydd;
O’i dŷ ef bendithiwn chwi:
27Duw yw’r Arglwydd, ’r hwn lewyrchodd
Yn ei ryfedd ras i ni;
Rhwymwch ’nawr yr hedd‐aberthau
Gyda rhaffau wrth allor Iôn;
28Fy Nuw folaf, ef ddyrchafaf —
29Molwch, bawb, heb dewi sôn!
Nodiadau.
I Dafydd ei hun, o’r dechreu hyd adn. 22, y perthyn y salm hon; i Dafydd mewn rhan, ond i Grist yn benaf, y perthyn y rhan olaf — o’r adnod hono hyd y diwedd. Geilw, i ddechreu, ar Israel yn gyffredinol, ac yna ar dŷ Aaron, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a holl ffyddloniaid y bobl yn neillduol, i glodfori yr Arglwydd, am fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd. Trugaredd Duw yw prif destyn cân a mawl ei bobl: ac am fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd, fe bery eu cân hwythau yn dragywydd hefyd. Wedi galw ar dŷ Israel a thŷ Aaron i glodfori yr Arglwydd am ei drugaredd iddynt, dadgana y Salmydd glodforedd drosto ei hun i Dduw am ei wrandaw pan fuasai yn gyfyng arno, a’i waredu o’i gyfyngder, ac o ddwylaw y cenhedloedd gelynol a ymosodasent arno; a thraetha ei hyder diysgog y gwaredai efe ef hefyd rhag llaw. Yna gesyd ei hun i sefyll megys o’r tu allan i borth y cyssegr, a geilw ar y porthorion, y Lefiaid — “Agorwch i mi byrth cyfiawnder,” & c.; a hwythau yn atteb, “Dyma borth yr Arglwydd,” ac yn ei agor iddo, ac yntau yn myned i mewn ac yn clodfori yr Arglwydd. Yn awr, y mae yr ysbrydoliaeth oedd arno yn ei arwain a’i ddysgu i lefaru a chanu am y Messiah — “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl.” Cyflawnid hyn yn Dafydd, y cysgod, y mae yn wir; ond golygir yma yn benaf un mwy na Dafydd; sef, y Messiah. Cymmhwysai y Messiah yr ymadroddion hyn fel prophwydoliaeth am dano ei hun wrth ymddiddan â’r archoffeiriaid a’r Phariseaid: Mat. xxi. 42, 45. Hwynthwy, blaenoriaid y genedl, oedd yr adeiladwyr; ond gwrthodasant hwy y maen a osodasai Duw yn Seion: tramgwyddasant wrtho, a syrthiasant arno, a drylliwyd hwynt yn chwilfriw yn y diwedd. Daeth y maen a wrthodasant hwy yn ben i’r gongl, pan yr adgyfododd efe o’r bedd, y gogoneddwyd ef yn y nefoedd, y tywalltwyd yr Ysbryd ar ddydd y Pentecost, ac yr aeth yr apostolion i’r holl fyd, gan “bregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef yn mysg yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Ierusalem.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.