1Na thaw, O Dduw! fy moliant,
2Can’s mae ’r annuwiol ddyn,
A’r traws, yn agor arnaf
Eu safnau yn gyttûn:
A thafod llym celwyddog,
I’m herbyn, wŷr diras,
Llefarant —
3cylchynasant
Fi o hyd â geiriau câs.
Ymladdant yn fy erbyn
Heb achos yn y byd;
4Ond am fy ngharedigrwydd,
Gwrth’nebant fi o hyd;
Ond mi arferaf weddi
5Er talu o honynt ddrwg
Am dda, a châs am gariad,
Er gwaethaf eu holl ŵg.
6Dôd dithau un annuwiol
I’w drafod â llaw gref,
A safed Satan hefyd
Ar ei ddeheulaw ef;
7Pan farner, aed yn euog;
Ei weddi ’n bechod boed:
8Ychydig fyddo ’i ddyddiau;
Ei swydd i arall roed.
9Ei blant a fo ’n amddifaid,
A’i wraig yn weddw lwyd;
10Ië, aed ei blant ar grwydr,
Ac i gardota ’u bwyd:
Eu bara geisiant hefyd
O’u hanghyfannedd le,
’N wrthddrychau didosturi
Gan bawb o dan y ne’.
11Y ceisiad rwydo ’r cwbl
Oedd ganddo yn y byd;
Estroniaid a anrheithio
Ei lafur oll i gyd:
12Na fydded neb estyno
Drugaredd iddo chwaith,
Na neb a drugarhao
Wrth ei amddifaid llaith.
13Tòr ei hiliogaeth ymaith,
Dilëer eu henwau hwy,
Fel na b’o yn ’r oes nesaf
Un coffa am danynt mwy;
14O flaen yr Arglwydd cofier
Pechodau ’i dadau ef,
Ac na ddilëer beiau
Ei fam o lyfrau ’r nef.
15B’ont hwy ger bron yr Arglwydd
Bob amser mewn coffâd,
Fel torer coffadwriaeth
Y teulu hwn o’r wlad;
16Am iddo anghofio gwneuthur
Trugaredd, hyn fo ’i ran,
Ond erlid wnaeth y truan,
Anghenus, tlawd, a gwan.
17Efe a hoffodd felldith,
Ac arno daeth yn gref;
Ni hoffodd fendith — hithau
Bellhaodd oddi wrtho ef:
18Y felldith fel dilledyn,
Ei gwisgo am dano wnaeth,
Fel olew a dŵr berwedig,
Trwy ’i esgyrn ef yr aeth.
19Wel, bydded fel dilledyn
A wisg am dano ’n dỳn,
Fel gwregys a wregyso
’N wastadol, b’oed fel hyn:
20Hyn fyddo gan yr Arglwydd
Yn dâl i’r rhei’ny sydd,
Yn erbyn f’ enaid gwirion
Yn ceisio drwg bob dydd.
Rhan II.7.6.
21O Arglwydd Dduw! gwna erof,
Er mwyn dy enw mawr,
Am fod yn dda ’th drugaredd,
Gwareda fi yn awr;
22Can’s tlawd a thruan ydwyf,
A’m calon yn llesghau;
23Fel cysgod ’rwyf yn cilio,
Fel locust yn gwanhau.
24Fy ngliniau ’n wan gan ympryd
A aethant — curia ’m cnawd:
25Gwaradwydd oeddwn iddynt,
Ysgydwant ben mewn gwawd:
26O! cynnorthwya, Arglwydd
Fy Nuw, ac achub fi,
Yn ol dy dosturiaethau
A’th drugareddau di.
27Fel gwelont, fel gwybyddont
Mai dy law di yw hyn,
Mai ti, O Arglwydd! wnaethost,
Fel tawont hwy yn sỳn;
28Melldithiant hwy:— ond Arglwydd
Fy Nuw, bendithia di:
Cywilyddier hwy pan godont,
Ond llawenycher fi.
29Fy ngwrthwynebwyr wisger
A gwarth a ch’wilydd sỳn,
A glynont felly am danynt,
Hwy megys cochl yn dỳn;
30Clodforaf finnau ’r Arglwydd
A’m genau ’n felus iawn,
Moliannaf yn mysg llawer
Ei enw mawr, a’i ddawn.
31O herwydd ef a safodd
Ar ddeheu law y gwan,
I’w achub a’i waredu,
A dal ei ben i’r lan;
Am hyny rhoed y trueiniaid
Eu hyder ynddo ef;
Y dydd bo ’n gyfyng arnynt,
Rhydd iddynt gymmhorth gref.
Nodiadau.
Myn rhai briodoli y salm hon i’r tymmhor pan yr oedd Dafydd yn ffoadur o flaen Saul; ac mai Döeg yr Edomiad yw y person a felldithir mor ofnadwy ganddo ynddi. Barna ereill mai yn amser ei fföedigaeth rhag Absalom y cyfansoddwyd hi, ac mai Ahitophel yw y bradwr a ddedfrydir. Cymmhwysa yr apostol Pedr (Act. i. 20) yr ymadroddion yn adn. 8, “A chymmered arall ei swydd ef,” at Iudas Iscariot, bradychwr y Gwaredwr. Yr un diwedd a fu i’r ddau fradwr, Ahitophel bradwr Dafydd, ac Iudas, bradwr Crist; aeth y naill a’r llall allan ar ol cyflawni y weithred, ac ymgrogasant.
Etto, credwn mai i’r tymmor cyntaf o amser fföedigaeth Dafydd o flaen Saul y perthyna y salm, ac mai Döeg yw y bradwr a felldithir ynddi. Y mae y disgrifiad a rydd o’i amgylchiadau ei hun ac o’i elynion yn fwy cydweddol â’i hanes yn y cyfnod hwnw nag ydyw â thymmor ei fföedigaeth rhag Absalom. Yr oedd ei brofiad yn dra gwahanol yn amser ei fföedigaeth rhag Absalom i’r hyn ydoedd yn amser ei fföedigaeth rhag Saul. Pan yn ffoi rhag Saul, yr oedd ganddo gydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion; gallasai godi ei wyneb yn ddifrychau ger bron Duw, ac appelio ato fel tyst o’i berffaith ddiniweidrwydd o’r hyn y cyhuddid ef — yr hyn a wna efe yn fynych yn ei weddïau ar y tymmor hwnw, ac a wna efe yn y salm hon hefyd. A’r un modd gallai edrych yn wyneb Saul ei hun hefyd, ac appelio at ei reswm a’i gydwybod yntau, i dystio ei ddiniweidrwydd — a gwna hyny hefyd ar ddau amgylchiad. Y cyntaf, pan y cafodd efe Saul yn cysgu yn yr ogof, yn anialwch Engedi, ac y torodd gwr ei fantell, ac y galwodd arno, gan ddangos cwr ei fantell iddo, oedd ganddo yn ei law, fel prawf nad oedd yn ceisio ei einioes, gan y buasai mor hawdd iddo ar yr amgylchiad hwnw dori ei ben ef a thori cwr ei fantell: 1 Sam xxiv. A’r ail dro, pan y cafodd efe Saul a’i wŷr yn cysgu yn y wersyllfa, ac y cymmerth efe waywffon Saul a’r llestr dwfr oedd wrth ei obenydd ef ymaith, ac y galwodd ar Saul a’i wŷr oddi ar fryn ger llaw, ac y dangosodd y waywffon a’r llestr dwfr iddo, fel y gwnaethai y tro o’r blaen â chwr ei fantell. Ar yr amgylchiad blaenorol, efe a felldithiodd feibion Belial a annogent Saul yn ei erbyn ef, fel y gwna yn y salm hon; 2 Sam xxvi. 19. Ond yr oedd yn wahanol iawn ar ei brofiad yn amser ei fföedigaeth rhag Absalom; canys ar yr achlysur hwnw yr oedd euogrwydd ei odineb gyda Bathseba, a gwaed gwirion ei was ffyddlawn Urias yr Hethiad, ei gŵr hi, yn taranu yn ei gydwybod, fel nad allai yn awr edrych i fyny at Dduw fel tyst o’i fod yn dioddef yn ddiachos, na meddwl am felldithio Ahitophel am ei fradwriaeth, fel y melldithiai Döeg; ac heb law hyny, yr oedd Bathseba yn ŵyres i Ahitophel, a dichon fod Ahitophel wedi ymddigio yn ddirfawr wrtho am y gwarth a ddygasai ar ei deulu. Pan y mae Simei, mab Gera, yn ei felldithio â melldith dost, pan ffodd efe rhag Absalom, yr ydym yn cael Dafydd yn dioddef y cwbl yn dawel ac ymostyngar, er mor galed oedd hyny iddo. Nid oes genyf ddim i’w chwanegu ar waith Dafydd yn melldithio ei elynion, fel y gwna efe yn y salm hon, a rhai salmau ereill, at yr hyn sydd i’w weled yn y nodiadau ar Salm xxxv., ond yn unig hyn — fod yr holl felldithion a gyhoedda Dafydd yn y salm hon, ar y cymmeriadau a nodir ganddo, wedi eu cyhoeddi o’r blaen gan Dduw ei hun trwy Moses yn y gyfraith; a gorchymynid i’r holl bobl ddodi sêl eu ‘hamen’ wrth bob un o honynt pan gyhoeddid hwy yn nghlywedigaeth yr holl dyrfa oddi ar fynydd Ebal (Deut. xxvii. 16-26) — a hyny a wna y Salmydd yma.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.