1-2Oni buasai ’r Arglwydd,
Yr Hwn fu gyda ni,
Pan gododd dynion creulawn
I’n herbyn dorf ddiri’,
3Yn fyw hwy a’n llyngcasent
Pan fflamiodd tân eu llid
Cynddeiriog yn ein herbyn —
Difasent ni i gyd.
4Llifasai ’r dyfroedd trosom,
Yn genllif garw mawr,
Soddasai ’n henaid gwirion
O dan y ffrwd i lawr;
5Y dyfroedd chwyrn chwyddedig,
Lifasent drosom gan
Orchuddio ein heneidiau,
Na welsem byth y lan.
6Bendigaid fyddo’r Arglwydd,
Molwn ei enw mwy,
Am na ro’es ni ’n ysglyfaeth
I’w dannedd llymion hwy.
7Fel diangc yr aderyn
O law ’r adarwr cudd,
Y diangasom ninnau,
Gan gael ein traed yn rhydd.
Y fagl gref a dorwyd,
’R ’ym ninnau ’n canu ’n awr
Glodforedd llawen hyfryd
Am yr ymwared mawr;
8Ein porth sy’n enw ’r Arglwydd,
Ein hunig Geidwad yw;
Yr hwn wnaeth nef a daear,
Fe’n ceidw byth yn fyw.
Nodiadau.
Salm‐weddi am ymwared o drallod yw y salm flaenorol, ac un o wresog ddiolchgarwch am waredigaeth o ryw drallod neu drallodau ydyw hon. Yn yr un flaenorol, cawn yr eglwys “mewn adfyd, ac yn gweddio;” ond yn hon y mae hi “yn esmwyth arni,” mewn cymmhariaeth, a hithau yn “canu salmau.”
Y mae yn amlwg fod y perygl y buasai gwladwriaeth Israel ynddo, y cenir yma am y waredigaeth o hono, yn un mawr a thra enbyd. Fe allai mai yr amgylchiad y daethai brenin Assyria a’i holl ogoniant, fel dyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, dros holl led tir Emmanuel yn amser Hezeciah, ydoedd; pan y cronodd y dwfr “hyd hanner y gwddf,” fel y dywed y prophwyd Esaiah; sef, y dodwyd Ierusalem dan warchae, ac y gwaredwyd hi mewn modd gwyrthiol, drwy weinidogaeth angel. Pa fodd bynag, y mae “y forwyn, merch Seion, yn dirmygu; a merch Ierusalem yn ysgwyd ei phen ar ol” y gelyn a ymosodasai arni, pwy bynag ydoedd, yn y gân hon; ac yn priodoli holl ogoniant ei gwaredigaeth i’w Duw. Y mae ein holl drallodau a’n gwaredigaethau yn cydweithio er ein daioni pan y mae y naill yn cynnyrchu ysbryd ymostyngar ger bron Duw, a’r llall ysbryd diolchgar iddo:— “Galw arnaf fi yn nydd trallod, a mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi,” medd yr Arglwydd wrth ei bobl: ac felly yr ydym yn cael y ffyddloniaid yn gwneyd yn y salm hon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.