1Cydganwn foliant rhwydd
I’r Arglwydd — gweddus yw;
Yn nerth ein hiechyd llawenhawn,
Mawr ydyw dawn ein Duw.
2O! deuwn oll ynghyd
Yn unfryd ger ei fron;
Offrymwn iddo ddiolch clau
Mewn salmau llafar llon.
3Anfeidrol fwy yw Iôn
Na ’r duwiau meirwon mân,
A Brenin uwch brenhinoedd byd,
I’w enw i gyd bo’r gân.
4Mae gorddyfnderau ’r llawr
Oll yn ei lesfawr law,
Ac uchelderau mawrion certh
Y bryniau anferth draw.
5Y môr, a’i deulu maith,
Hwy ydynt waith ein Duw:
A’i eiddo ydyw ’r ddaear gron,
A phawb ar hon sy’n byw.
Rhan II.8.7.4.
6Deuwch, plygwn ar ein gliniau,
Ac addolwn ger ei fron
Ef, yr Arglwydd ein Gwneuthurwr,
Gwasanaethwn ef yn llon:
7Pobl ei borfa, & c.,
Ef, a’i ddefaid ydym ni.
Heddyw, os rhoddwch glust i wrandaw
Ar leferydd ei air ef,
8Na chaledwch eich calonau
Fel yn nydd y gynnen gref:
Dydd y profi, & c.,
Yn anialwch Cades gynt.
9Pan y’m temtiwyd gan eich tadau,
Ac profasant fi, medd Iôn,
Ac y gwelsant fy ngweithredoedd —
Pery am danynt byth y sôn:
10Deugain mlynedd, & c.,
Ymrysonais â hwynthwy.
D’wedais, Pobl gyfeiliornus
Yn eu calon ydynt hwy;
A fy ffyrdd nid adnabuant,
Ymgyndynu wnaent fwy‐fwy:
11Fel y tyngais, & c.,
Na ddoe’nt i’m gorphwysfa i.
Nodiadau.
Salm Dafydd, fe dybir, yw hon etto; ac y mae cefnogaeth i’r dyb yn Heb. iv. 7, lle y mae Paul, wrth goffau yr ymadroddion yn adn. 7 a 8 o’r salm, yn eu priodoli i Dafydd. Ond nid yw hyny chwaith yn ddadl benderfynol ar y mater, o blegid y mae Llyfr y Salmau oll, yn y Testament Newydd, yn cael ei briodoli i Dafydd, o herwydd mai efe ydoedd awdwr y rhan fwyaf o honynt. Galwad ddifrifol ar y bobl i ymgasglu ynghyd i addoli a moliannu Duw a gawn yn gyntaf yma, oddi ar ystyriaeth o’i ddaioni graslawn i’w greaduriaid, a’i fawredd anfeidrol fel yr unig wir Dduw, Creawdwr, a Llywodraethwr pawb a phob peth. Wedi crybwyll yr ystyriaethau hyn, geilw y Salmydd drachefn ar y bobl i gyduno âg ef mewn addoliad cyhoeddus i Dduw, gan eu rhybuddio i ochelyd bod fel eu tadau yn yr anialwch, yn gwrthod gwrandaw ar leferydd Duw, ac yn ei demtio i ddigofaint drwy eu calon‐galedrwydd a’u gwrthryfel, fel, wedi ymryson â’r genhedlaeth hono am ddeugain mlynedd, y “tyngodd efe yn ei lid na ddelent i’w orphwysfa ef,” sef, i Wlad yr Addewid. Yn y rhan olaf hon o’r salm Duw ei hun sydd yn llefaru.
Rhydd yr apostol (Heb. iv. 7-9) eglurhâd ar y geiriau hyny yn y salm, gan eu cymmhwyso at alwadau a lleferydd Duw yn yr efengyl. “Drachefn (medd ef), y mae efe (Duw) yn penu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd:” — rhyw ddiwrnod arall, amgen na’r diwrnod y llefarai yn Moses wrth y genhedlaeth hono a’i digiodd ef yn yr anialwch; ac am ryw orphwysfa arall, amgen na’r orphwysfa y llefarai am dani wrthynt hwy y pryd hwnw. Dygodd Iosuah y genhedlaeth nesaf o blant Israel i’r orphwysfa ddaearol y cauwyd y genhedlaeth a ddygwyd o’r Aipht allan o honi. “Ond pe dygasai Iesus hwynt i orphwysfa (i wir a chyflawn orphwysfa), ni soniasai efe (Duw) ar ol hyny am ddiwrnod arall,” gan y buasai y bwriad a’r addewid ddwyfol wedi eu llwyr gyflawni yn yr Iesu (Iosuah) hwnw. “Y mae gan hyny orphwysfa etto yn ol i bobl Dduw.” Y mae y diwrnod a benir yn Dafydd, gan hyny, yn ddiwrnod arall, a’r orphwysfa yn orphwysfa arall; ac yr ydym yn gweled Iesu arall yn arweinydd i’r orphwysfa arall hono, o’r hwn nid oedd yr Iesus cyntaf ond cysgod gwan, a’r orphwysfa y dygodd yr Iesus hwnw y bobl i mewn iddi ond cysgod ammherffaith iawn o’r orphwysfa ysbrydol a thragwyddol y mae Iesu, Cyfryngwr y Testament Newydd, yn dwyn credinwyr i mewn iddi. Eu hanghrediniaeth yn unig a gauodd y genhedlaeth hono yn yr anialwch allan o’r orphwysfa dymmorol, ac anghrediniaeth yn unig sydd etto yn cau dynion dan yr efengyl o’r orphwysfa ysbrydol a thragwyddol. “Byddwn ddyfal,” medd yr apostol, “i fyned i mewn i’r orphwysfa hono, fel na syrthio neb yn ol yr un siampl o anghrediniaeth.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.