1Clodforwch chwi yr Arglwydd Dduw:
Ei weision ef, can’s sanctaidd yw,
Molwch ei enw mawr;
2Bendigaid yw, bendigaid fydd,
Ef o hyn allan yn ddi‐ludd,
Tra treiglo oesau’r llawr.
3O godiad hyd fachludiad gwawr,
Moliannus yw ei enw mawr;
4Uchel yw ef uwch law
Yr holl genhedloedd yn y byd,
Uchel uwch law y nef i gyd;
Ei fath ni fu, ni ddaw.
5Pwy fel Iehofah ein Duw ni
Sy’n uchel mewn anfeidrol fri,
6Ac yn ymostwng ’lawr,
I edrych ar y pethau sy’
’N y nef, ac ar y ddaear ddu:
Efe ei hun sydd fawr.
7Efe sy’n codi ’r tlawd o’r llwch,
A’r truan gwael o’r domen drwch,
Lle ’r oe’nt yn wael eu gwedd:
8I’w gosod hwy yn hardd eu drych
Yn mysg ei bendefigion gwych
I gydfwynhau ei hedd.
9’R hwn wna i’r ammhlantadwy, fu
’N amddifad brudd, i gadw tŷ,
Yn llawen fam i blant:
Am hyny deued, heb nacau,
Y truain a’r cystuddiol rai,
I gydfoliannu’r Sant.
Nodiadau.
Yr oedd y salm hon, medd athrawon Iuddewig, yn gân deuluaidd gan yr Hebreaid, a dadgenid hi ganddynt hefyd yn gymdeithasol ar eu newydd-loerau, a’u gŵyliau, ac yn neillduol ar nos eu Pasc, wedi iddynt fwyta oen y Pasc. Gelwir ar weision yr Arglwydd i’w foliannu ef, ar gyfrif ei oruchelder ar bawb ar y ddaear ac yn y nefoedd. Am ei fod o’r goruchelder hwnw yn ymddarostwng i edrych ar y pethau sydd yn y nefoedd ac yn y ddaear, angylion a dynion, ac yn neillduol ar drueiniaid tlodion, a rhai amddifaid y ddaear, ac yn codi y tlawd o’r llwch, yr anghenus o’r domen, ac yn gwneyd i’r ammhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Nid oes neb yn mysg pendefigion ei bobl a’i moliannant ef yn fwy melus a gwresog na’r rhai hyny a ddyrchafwyd o lwch tlodi, ac o domenydd trueni y ddaear, i’r anrhydedd a’r gogoniant nefol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.