Salmau 63 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM LXIII.8.8.8.Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffaethwch Iudah.

1Tydi, O Dduw! yw fy Nuw i,

Yn foreu, foreu, ceisiaf di:

Sycheda ’m henaid am dy ras;

Hiraethu mae fy nghnawd un‐wedd,

Am brofi a mwynhau dy hedd,

Mewn anial dir, sychedig, cras.

2I weled dy ogoniant drud,

A’th nerth fel gwelais lawer pryd,

Yn nghyssegr pur dy enw glân;

3Gwell yw ’th drugaredd di, O Dduw!

Na’r bywyd, er mor werthfawr yw —

Fy ngenau a’th fawl â llafar gân.

4Fel hyn clodforaf di o hyd

Dros ddyddiau mywyd yn y byd,

Dyrchafu ’m dwylaw ’n d’ enw wnaf;

5Megys â mêr a brasder mâd

Digonir f’ enaid â mwynhâd,

Ac yn dy foliant llawenhâf.

Rhan

II.

8.7.4.

6Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely

Mi fyfyriaf am dy ras,

Drwy wyliadwriaethau ’r hirnos,

Nes y gwawrio ’r boreu glâs;

7Ac yn nghysgod, & c.,

Dy adenydd llechu wnaf.

8Glynu wna fy enaid wrthyt,

Dy ddeheulaw ’m deil i’r lan,

9Ond rhai geisiant ddistryw f’ enaid,

Hwy a syrthiant yn y man;

Iselderau, & c.,

Dwfn y ddaear fydd eu lle.

10Syrthiant oll ar fin y cleddyf,

Rhan llwynogod fyddant hwy,

11Ond y brenin lawenycha

Yn ei Dduw, heb ofni mwy:

Gorfoledda, & c.,

Pawb a dyngont iddo ef:

Cauir genau, & c.,

Pawb a dd’wedant gelwydd byth.

Nodiadau.

Dywed teitl y salm mai yn niffaethwch Iudah yr oedd Dafydd pan gyfansoddodd hi: pa un ai yn ystod ei ffoedigaeth rhag Saul, ynte ei ffoedigaeth rhag Absalom, nid yw mor hawdd penderfynu yn sicr. Y tebygolrwydd yw, mai yr olaf oedd, oddi wrth ei fod yn ei grybwyll ei hun fel brenin yn yr adnod olaf; canys nid oedd efe etto yn frenin yn amser Saul, ond yn unig wedi ei eneinio i’r orsedd.

Ychydig a feddyliai Dafydd ei hun, na neb arall y pryd hwnw, pa mor fendithiol iddo ef, i gredinwyr, ac i’r eglwys drwy holl oesau y byd, oedd profedigaethau blinion ei fywyd. Ni welai efe hwynt yn hyfryd, ond yn anhyfryd; ond wedi hyny, y maent yn rhoddi heddychol ffrwyth cyfiawnder yn barhaus yn ei salmau i gredinwyr yn nhrallodion a phrofedigaethau bywyd. A llefaru yn ol dull dyn, ni buasai y trysor ammhrisiadwy hwn yn meddiant yr eglwys, oni buasai i Dafydd gael ei yru i’r anialwch, a’i gadw yn hir yno lawer tro: felly y daeth efe yn ei salmau i fod megys yn gydymaith i bob credadyn cystuddiedig a thrallodus, i’w ddysgu a’i ddiddanu, ac i fod yn arweinydd i’r eglwys hefyd yn ei chyflawniadau cyhoeddus o weddi a mawl.

Ei hiraeth penaf yn yr anialwch lle yr oedd, ydoedd, am gyssegr, gwasanaeth, ac addoliad Duw, a chymdeithas ei bobl. Y mae hyd yn oed ei gŵynion yn y salm hon yn felusion fel diliau mêl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help