1Edrychaf i’r mynyddoedd draw,
O’r fan lle daeth, o’r fan lle daw,
Fy nghymhorth parod iawn;
2Fy nghymhorth ddaw oddi wrtho ef,
Yr hwn a greodd dae’r a nef —
Fy nerth, fy noddfa lawn.
3-4Dy droed i lithro ef ni âd,
Ni huna byth dy Geidwad mâd —
Hen Geidwad Israel yw:
5Bydd ef i’th gadw rhag pob braw,
Yn gysgod ar dy ddeheu law,
Diogel byddi byw.
6Ni thery haul y dydd dy ben,
A’r nos ni’th dery’r lleuad wen,
7Dy Geidwad ydyw Duw:
8Cei fyn’d a dyfod dan ei nawdd,
Ni syrthi mewn na ffos na chlawdd,
A’th enaid byth fydd byw.
Nodiadau.
Yr oedd ysbryd y salmydd mewn hwyl felus yn cyfansoddi y ganig hon — yn llawn o ffydd a hyder yn ei geidwad a’i arweinydd anfeidrol, am bob cymmhorth cyfamserol a diogelwch rhag pob niweidiau tymmorol ac ysbrydol. Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd. — Neu, a ddyrchafaf fi fy llygaid i’r mynyddoedd am nawdd a diogelwch? A hyderaf fi ar y mynyddoedd sydd yn amgylchu Ierusalem i’n cadw rhag gelynion a ddichon ymosod arni? Na: mi a edrychaf yn uwch na’r mynyddoedd — at yr hwn a’u gwnaeth hwynt, “yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.” Yna, mewn acenau melusion, efe a ddadgana glod a rhagoriaeth ei geidwad ef, a cheidwad ei bobl, Israel, ar bob ceidwad arall — ei fod yn geidwad nad ydyw byth yn cysgu, yn huno, nac yn hepian, yn geidwad parod, agos wrth law bob amser — ar dy ddeheulaw; yn geidwad rhag pob drwg — rhag pechod, y drwg gwaethaf o’r drygau oll; yn cadw y traed rhag llithro i ddrygau a niweidiau y bywyd hwn; ac yn geidwad enaid i fywyd tragwyddol. Llais un yn canu dan nawdd, amddiffyn, ac arweiniad y Ceidwad hollalluog hwn a glywir yma:— y Ceidwad y cyhoeddodd angel o’r nef y newydd da o lawenydd mawr, yn mhen cannoedd lawer o flynyddoedd ar ol hyn, ei enedigaeth i’r byd “yn ninas Dafydd,” yn achubydd ac iachawdwr i’r holl bobl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.