1Gostwng dy glust, O Arglwydd da!
I’m gweddi — clyw fy nghri;
Can’s truan ac anghenus iawn
Ti wyddost ydwyf fi.
2Cadw fy enaid, sanctaidd wyf,
Ac achub fi, dy was;
O Dduw! can’s mae f’ ymddiried i
Yn dy anfeidrol ras.
3Tosturia wrthyf, Arglwydd cu,
Can’s arnat llefain wnaf;
4Dyddana ’th was, can’s atat ti
Dyrchafu f’ enaid wnaf.
5Can’s da, O Arglwydd! ydwyt ti,
Da a maddeugar iawn;
O fawr drugaredd i’r rhai oll
Ddisgwyliant am dy ddawn.
6Clyw etto ’m gweddi, O fy Nuw!
A gwrandaw lais fy nghri;
7Yn nydd fy nhrallod, llefain wnaf,
Canys gwrandewi fi.
Rhan II.M. C.
8Nid oes yn mysg y duwiau neb,
O Arglwydd! fel tydi;
Nid oes gweithredoedd chwaith yn bod
Fel dy weithredoedd di.
9Yr holl genhedloedd ddeuant, ac
Addolant ger dy fron:
A gogoneddant d’ enw mawr,
Drwy barthau daear gron.
10Can’s ti yn unig ydwyt fawr,
A’th waith, rhyfeddol yw;
A thi dy hun drwy’r nef a’r llawr,
Yn unig ydwyt Dduw.
11Dy ffyrdd i mi, O Arglwydd! dysg
A rhodiaf ynddynt hwy;
Una fy nghalon yn barhaus
I ofni d’ enw mwy.
Rhan III.M. C.
12Moliannaf di, O Arglwydd! â’m
Holl galon y’th fawrhâf;
A gogoneddu d’ enw mawr,
Byth yn dragywydd wnaf.
13Can’s mawr yw dy drugaredd fad
Yn wastad ataf fi;
O uffern isod yn dy ras
Gwaredaist f’ enaid i.
14Rhai beilchion gyfodasant — do,
I’m herbyn, O fy Nuw!
A chynnulleidfa ’r trawsion rai
Geisiasant f’ enaid gwiw.
Duw, ni osodent ger eu bron;
15Ond Ti, erioed o hyd,
Wyt Dduw trugarog a gras lawn,
Hwyrfrydig iawn i lid.
Wyt helaeth o drugaredd a
Gwirionedd, ac o ras;
16O! edrych arnaf, trugarhâ —
Dyro dy nerth i’th was.
Ac achub fab dy was’naeth‐ferch
17Gwna arwydd im’ er da;
Fel gwelo fy nghaseion dig
Er gw’radwydd i’w trahâ.
O herwydd i ti, O fy Nuw!
Fy nghynnorthwyo o’th ddawn;
A rhoi i’m henaid oedd yn drist
Ddiddanwch melus iawn.
Nodiadau.
Dyma Dafydd yn y golwg unwaith etto. Ymddengys nad oedd gan Ezra, neu pwy bynag a gyfleodd y salmau yn llyfr fel y maent yn ein Beiblau, un golwg nac amcan i’w dodi yn olynol a rheolaidd yn ol amseriad eu cyfansoddiad. Cawn rai o salmau boreuol Dafydd yn nghanol y llyfr, a rhai o salmau ei henaint yn mhell o flaen y rhai hyny. Salm berthynol i amser ei ffoedigaeth rhag Absalom yw y drydedd salm yn y llyfr cyntaf. Y maent yn ymddangos fel wedi eu cyfleu yn ol fel y digwyddent ddyfod i law yr hwn oedd yn golygu y gwaith — fel y nodasom o’r blaen. Felly, daw y salm hon o eiddo Dafydd i mewn yn nghanol salmau meibion Corah. Ar ba dymmor o’i fywyd y cyfansoddodd, na pha drallod neillduol a fu yn achlysur iddo ei chyfansoddi, nis gellir penderfynu; canys nid oes iddi deitl i hysbysu hyny. Y mae yn dwyn llawer o debygolrwydd i amryw ereill o salmau Dafydd yn ei hysbryd a’i hiaith. Y mae yn llawn o ysbryd addoli a mawrhau Duw am ei drugaredd a’i raslonrwydd, ac o ysbryd ffydd ac ymddiried yn yr Arglwydd ar y cyfrif hwnw, ac yn llawn o ysbryd gweddi hefyd, am ymwared o drallodion tymmhorol ac ysbrydol, ac am bob gras a bendith angenrheidiol. Y mae efe yn mawrhau ei Dduw, yn ymddiried ynddo, yn galw arno, yn ei foliannu, ac yn gorfoleddu ynddo.
Gesyd yn y salm hon ddadl neu reswm neillduol dros bob deisyfiad o’i weddi. Ymbilia (adn. 1) am i’r Arglwydd “ostwng ei glust i’w wrandaw,” am ei fod yn “druan anghenus” a digymmhorth — am iddo “gadw ei enaid” (adn. 2), am ei fod yn “sanctaidd,” yn neillduedig gan Dduw iddo ei hun, a’i achub a’i ddiogelu, o herwydd ei fod yn ymddiried ynddo am drugaredd ac ymgeledd: adn. 3 — am ei fod “yn llefain beunydd” arno mewn gweddi — am gysur a diddanwch i’w enaid helbulus: adn. 4, 5 — am ei fod yn edrych ato ef yn unig, fel ffynnon pob diddanwch; a’i fod ef “yn dda a maddeugar, ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arno,” & c., & c. Yr oedd y gweddïwr hwn yn gwneyd pob peth oedd ynddo ef ei hun, o drueni ac angen, ac ofn a thrallod, a phob peth sydd yn Nuw, yn ddaioni, a gras, a thrugaredd, a phob mawredd, yn ddadleuon am wrandawiad i’w weddïau; a gall pob gweddïwr etto ddilyn ei esiampl, canys y mae ei weddïau ef yn ffrwyth dysgeidiaeth “yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth, ïe, dyfnion bethau Duw hefyd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.