1D’wedai ’r Arglwydd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy neheu’n awr,
Nes gosodaf dy elynion
Oll o dan dy draed i lawr:
2Gwialen nerth dy ras o Seion
Enfyn Duw — teyrnasa di,
Draw yn nghanol dy elynion,
Mewn goruchel barch a bri.
3Bydd dy bobl yn ewyllysgar,
Oll i ti yn nydd dy nerth;
Gwisgant harddwch gwir sancteiddrwydd,
Brydferth wisg o ddwyfol werth:
Fel y gwlith o groth y wawrddydd,
Bydd dy enedigion di,
Tyrfa lân a fydd na ddichon
Un‐dyn byth ei rhifo hi.
4Tyngai’r Arglwydd i’r Messiah —
Ni bydd ’difar ganddo — Ti
Wyt yn ol urdd Melchisedec,
Yn offeiriad byth i mi:
5Ar dy ddeheu law Iehofah
A drywana ’n nydd ei lid
Y brenhinoedd a gyfodant
Yn dy erbyn oll i gyd.
6Barna ef yn mysg cenhedloedd,
Mewn awdurdod, caiff fawrhâd,
Lleinw leoedd â ch’laneddau,
Clwyfa deyrniaid llawer gwlad;
7Ar ei ffordd fe ŷf o’r afon,
A dyrchafa ef ei ben;
Gogoneddus ar y ddaear
Fydd, ac yn y nefoedd wen.
Nodiadau.
Y mae awyr‐dymmer y salm hon yn wahanol iawn i’r flaenorol — “Canys wele, y gauaf a aeth heibio, a’r gwlaw a basiodd:” gostegodd taranau y melldithion, a daeth haf teg a hyfryd yr efengyl arnom yma. Gellid dyweyd wrth Dafydd yn awr, fel y dywedai y dysgyblion wrth eu Harglwydd ar un achlysur, “Wele, yn awr yr ydwyt yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddammeg;” Ioan xvi. 29. Felly y llefara y Salmydd am y Messïah yn y Salm hon. Nid yw yn dywedyd un ddammeg — dim ag sydd yn berthynasol iddo ef ei hun, nac i Solomon, mewn rhan, ac mewn rhan i’r Messïah, fel mewn amryw salmau ereill. Eithr am y Messïah yn unig, ac yn hollol, y llefara efe; ac y mae yn ammhossibl cymmhwyso yr ymadroddion at neb arall. Wrth bwy y dywedodd Iehofah, fel y sylwa yr apostol (Heb. i. 13), “Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i’th draed?” Yn sicr, nid wrth Dafydd, ond wrth Arglwydd Dafydd; a’r Messïah oedd hwnw, yn ol esboniad Crist ei hun wrth yr Iuddewon — ac ni chynnygient hwythau wadu hyny: Mat. xxii. 42. A’r un modd yr ymadrodd arall:— nid oedd Dafydd na Solomon yn offeiriaid yn ol urdd Melchisedec, nac yn ol urdd Aaron chwaith. Gan hyny, y mae y Messïah yn cael ei ddwyn ger ein bron yn y salm hon, heb fod un ddammeg, na chysgod rhyngom ag ef.
Dygir yma dystiolaeth bendant i ddwyfoldeb person y Messïah:— “Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd i,” Dafydd. Ymddengys fod Dafydd mewn gweledigaeth, megys, yn bresennol yn ngogoneddiad y Gwaredwr ar ei esgyniad i’r nefoedd. Dygai yr un dystiolaeth i ddwyfoldeb person y Messïah o’r blaen, yn Salm xlv. a cii. Gwel Heb. i. 8-12. Dygir tystiolaeth yma hefyd i offeiriadaeth Crist yn ol urdd Melchisedec. Nid oedd dim wedi ei lefaru yn eglur ar y mater hwn yn yr Hen Destament o’r blaen. Y mae rhan helaeth o’r Epistol at yr Hebreaid yn draethawd ar yr ymadrodd hwn o’r salm, mewn ffordd o eglurhau a phrofi athrawiaeth y pwngc pwysicaf hwn yn yr efengyl; sef, swydd a gwaith Crist fel offeiriad, pan oedd ar y ddaear, ac fel Archoffeiriad mawr y cyfammod newydd yn y nefoedd — “Y gwir gyssegr i’r hwn yr aeth efe i mewn fel Archoffeiriad, ac yr eisteddodd yn dragywyddol ar ddeheulaw Duw,” wedi iddo “offrymu un aberth dros bechodau.”
Dygir tystiolaeth yma hefyd i uniad y ddwy swydd, yr offeiriadol a’r frenhinol, yn mherson y Messïah. Gosodir ef megys i eistedd yn “Offeiriad ar ei frenhinfaingc; ac y mae y cynghor hedd rhyngddynt ill dau,” y Tad a’r Messïah, yma hefyd. Sicrheir iddo fel Brenin gyflawn fuddugoliaeth ar ei holl elynion, a llwyddiant cyffredinol i’w deyrnas — y bydd ei ddeiliaid yn ufudd ac ewyllysgar iddo, ac mor aml a lliosog a’r “gwlith o groth y wawr.” Wrth ddal ond y gyfran hon yn unig o’r Hen Destament yn wyneb tystiolaethau y Testament Newydd, onid ymddengys yn nesaf peth i ammhossiblrwydd i un meddwl diragfarn i ammheu nad Iesu o Nazareth yw y gwir Fessïah, a bod y Messïah hwnw yn wir a phriodol Dduw? Llafuriodd doctoriaid Iuddewig lawer i gymmhwyso geiriau y salm hon i rywun heb law y Messïah; ac y maent, meddai Chrysostom, fel deilliaid a gwallgofiaid, yn rhedeg ac yn curo eu penau yn erbyn eu gilydd, ac yn erbyn parwydydd eu dychymygion — yn druenus yr olwg arnynt. Ond yr oedd yr Iuddewon oll cyn Crist, ac yn ei amser ef, yn eu priodoli i’r Messïah yr oeddynt yn ei ddisgwyl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.