1Pa ham y’n bwriaist heibio, O Dduw!
O’th wyddfod gwiw ’n dragywydd?
Y myga ’th soriant yn ddibaid
Tu’g at dy ddefaid llonydd?
2O! cofia ’th gynnulleidfa, Iôr,
A brynaist o’r caethiwed;
A llwyth dy etifeddiaeth gu
Y gwnaethost di ei wared.
Y Seion hwn — dy sanctaidd fryn,
Y lle y trigit ynddo;
Ystyr a gwêl, O Arglwydd hael!
Yr olwg wael sydd arno.
3Prysura atom — gwêl yn awr
Yr anrhaith fawr dragwyddol;
Y drwg wnai ’r gelyn wrth ei flys
O fewn dy lys sancteiddiol.
4D’ elynion sydd yn rhuo ’n wir
Yn rhandir d’ etifeddiaeth;
A chodant eu banerau ’n hon,
’N arwyddion buddugoliaeth.
5Y maent i’w gwel’d fel dynion â’u
Bwyellau dyrchafedig,
A fyddent mewn prysurdeb mawr
Yn tori i lawr y goedwig.
6Fel hyn, heb ofn na ch’wilydd chwaith,
Ar waith y mae ’n gelynion,
Yn trin cerfiadau ’th deml dda
A bwyeill a morthwylion.
7Bwriasant dy gyssegroedd glân
I’r ysol dân — ni rysent;
Preswylfa deg dy enw mawr,
Hwy hyd y llawr halogent.
8Yn eu calonau, d’wedent, Gwnawn
Lwyr ddistryw cyflawn arnynt;
Holl ŵyliau Duw, dilëwn hwy —
Na sonier mwy am danynt.
Rhan II.M. S.
9Ni welwn mwy’n harwyddion gwiw;
Ofnadwy yw ein hadfyd:
Nid oes un prophwyd mwy ’n ein gwlad
All ddweyd parhâd ein drygfyd.
10Pa hyd, O Dduw! bydd d’ enw dan
Waradwydd gan y cablydd?
A lwyr adewi ni fel hyn
I’r gelyn yn dragywydd?
11Pa ham y tyni yn ei hol
Dy law anfeidrol? Estyn
Hi allan o dy fynwes — dod
Ei dyrnod ar y gelyn.
Rhan III.8.7.
12Canys ti, O Dduw! yw’m Brenin
O’r dechreuad: ti yn wir
Wyt yn unig yn wneuthurwr
Iachawdwriaeth yn y tir.
13Yn dy nerth y môr a berthaist:
Drylliaist benau dreigiau dig;
14Holltaist benglog y lefiathan,
Yn fwyd i’r bobl rhoist ei gig.
15Hollti ’r ffynnon, hollti ’r afon
Wnaethost — dygaist hwythau trwy;
Ië, afonydd cryfion lawer,
Sychaist — dihysbyddaist hwy.
16Eiddot ti yw ’r dydd goleuwyn,
Eiddot ti y nos, a’i llen;
Ti a barotoist oleuni,
Ac a luniaist haul y nen.
17Ti osodaist, fel y mynit,
Holl derfynau ’r ddaear lawr;
Ti a luniaist haf a gauaf —
Rhyfedd yw dy allu mawr!
18Cofia hyn, i’r gelyn gablu;
Arglwydd, cofia hyn yn awr;
Ac i’r bobl ynfyd yma
Waradwyddo d’ enw mawr.
Rhan IV.8.7.
19Na dd’od enaid gwan dy durtur
I gynn’lleidfa ’r gelyn câs;
Cofia d’ etifeddiaeth athrist,
Dy drueiniaid yn dy ras.
20Edrych ar dy hen gyfammod,
Canys llawn yw ’r ddaear hon
O drigfanau trawsder creulon,
Yn wastadol ger dy fron.
21Na chaed y tylawd ddychwelyd
Yn ei ol dan w’radwydd câs;
Caed y truan a’r anghenus
Etto lon foliannu ’th ras.
22Cyfod, Arglwydd! dadleu d’ achos,
Cofia ’r ynfyd rai sarhaus;
23Dadwrdd dy elynion celyd
Sydd yn dringo yn barhaus.
Nodiadau.
Y mae tywyllwch ac ansicrwydd mawr ynghylch pa Asaph oedd awdwr y salm hon. Amlwg yw nad yr Asaph cyntaf yn nyddiau Dafydd; canys ni ddigwyddasai dim erioed yn debyg i Seion ac i ddinas Ierusalem i’r hyn a ddisgrifir yma yn ei ddyddiau ef; a gellir dywedyd yr un peth i fesur helaeth am Asaph y Gweledydd, yn nyddiau Heseciah hefyd. Goresgyniad Ierusalem, a llosgiad y deml gan Nebuchodonosor, a chaethgludiad Iudah i Babilon, oeddynt yr amgylchiadau a gydweddent â disgrifiadau y salm; gan hyny, gorfodwyd llawer i dybio mai rhyw drydydd Asaph, yn amser y caethiwed, ac un o feibion y gaethglud, raid fod awdwr y salm hon. Ac etto, y mae yr holl salmau a briodolir i Asaph mor debyg i’w gilydd yn eu hysbryd, eu tôn, a’u dullwedd, fel y mae yn anhawdd meddwl eu bod yn gynnyrchion gwahanol awdwyr; etto, ymddengys y tebygolrwydd yn gryfach i mi mai dau Asaph oeddynt, fel y ceir achlysur i sylwi yn mhellach ar salm arall.
Dadleu yn daer a gafaelgar iawn â Duw dros ei sanctaidd ddinas Ierusalem, Seion a’r deml, a’r genedl orthrymedig, y mae y Salmydd yma, gan erfyn ar iddo ef ymddangos yn fuan o’u plaid, a darostwng y gelynion a’u hanrheithient, ac a gablent ei enw mawr ef. Dadleua hyny oddi ar y pethau mawrion a wnaethai Duw i’w bobl gynt, er yr amser y gwaredasai efe hwynt o’r Aipht hyd yr amser hwnw:— “Parthu’r môr, dryllio penau dreigiau yn y dyfnder,” sef byddin yr Aipht, oedd yn erlid ar eu hol; “dryllio pen y lefiathan,” Pharaoh ei hun; “hollti y ffynnon a’r afon,” hollti’r creigiau, i dynu dwfr i’w disychedu, ac afon yr Iorddonen i wneyd ffordd iddynt i fyned o’r anialwch i Wlad yr Addewid; “Cofio blynyddoedd deheulaw y Goruchaf,” ac erfyn am i’r ddeheulaw hono gael ei dadguddio etto o blaid ei bobl i’w hamddiffyn a’u gwared, a hyny yn benaf er mwyn gogoniant ei enw mawr ei hun. Nid oes dim yn fwy effeithiol i adgyfnerthu ffydd pobl Dduw mewn trallodion o’r fath yma, na “chofio y gwyrthiau gynt,” na dadleuon cryfach i’w defnyddio mewn gweddi am ymwared na choffau y gwyrthiau hyny. Y mae yr Arglwydd yn caru gweled ei bobl drallodedig yn cofio ei fawrion weithredoedd gynt wrthynt eu hunain, a’u clywed yn eu coffau wrtho yntau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.