1Clodforwch enw’r Arglwydd;
Gwaith da yw canu i’n Duw;
Hyfrydwch yw ei foli,
A gweddus hefyd yw.
2Yr Arglwydd adeilada
Gaersalem fawr ei braint,
A chasgla ato yno,
Ei etholedig saint.
3Y rhai sydd yn friwedig
O galon a iachâ,
Fe rwyma eu doluriau,
A’u poenau esmwythâ.
4Mae’n rhifo sêr y nefoedd —
Eu nifer ŵyr efe;
Fe’u geilw wrth eu henwau,
Fe’u ceidw yn eu lle.
5Mawr ydyw enw’r Arglwydd,
Breswyliai yn y berth;
Aneirif yw ei ddeall,
Anfeidrol yw ei nerth.
6Yr Arglwydd sy’n dyrchafu
Rhai llariaidd isel fryd,
Ond annuwiolion beilchion
Ddarostwng ef i gyd.
Rhan II.6.8.
7Cydgenwch glod i Dduw,
Ei haeddiant yw, a’i hawl:
Gwnewch dannau ’r delyn wiw
I gyd yn fyw o’i fawl.
8Y nef a’r cwmmwl döa draw
I barotoi i’r ddaear wlaw.
Fe bair i’r glaswellt îr
I wisgo ’r bryniau draw,
9A’r anifeiliaid gânt
Eu porthiant oll o’i law;
Diwalla gywion mân y brain,
A gwrendy ef ar gri y rhai’n.
12Caersalem, mola di
Dy Iôr — dy ddyled yw:
Merch Seion, dyrcha glod
Diddarfod i dy Dduw:
13Barau dy byrth a gadarnhâ,
A’th blant o’th fewn bendithio wna.
14Dy fro ’n heddychol wna,
Gan ei hiachau o’i chur,
Diwallu d’ enau mae
A brasder gwenith pur:
15’I orchymyn ar y ddaear ddyd,
A buan rhed ei air trwy’r byd.
Rhan III.M. S.
16Rhydd Duw ei eira megys gwlân,
I wisgo ’n lân, fel dafad,
Y ddaear drosti oll, a rhew,
Fel lludw ’n dew ar daeniad.
17Ei iâ ’n dameidiau ddaw i lawr,
Pwy gan ei ddirfawr oerni
A erys, nad yw ’n teimlo ’r crau
Yn ei wythïenau ’n fferu.
18Ei air a enfyn Iôr yn hawdd,
Ac ef a’u tawdd yn fuan;
Ei wyntoedd chwythant yn eu cyrn,
A’r dyfroedd chwyrn a lifant.
19Hysbysu ’i air i Iacob wnaeth
Yn etifeddiaeth iddo,
Ei ddeddfau da a’i farnau ’n glau
I Israel wnai ddadguddio.
20Nid felly — na, nid felly gwnaeth
Ag un genhedlaeth arall;
Ei ddeddfau glân a’i farnau gynt,
Ni ddarfu iddynt ddeall.
Nodiadau.
Awgryma y cyfeiriad at adeiladu Ierusalem, a chasglu gwasgaredigion Israel, yn yr ail bennill o’r gân hon, mai wedi dychwelyd y gaethglud o Babilon y cyfansoddwyd hi gan un o flaenoriaid y genedl:— gan Nehemiah, neu Ezra, fe ddichon, neu un o’r prophwydi, Haggai, neu Zechariah, y rhai oeddynt oll yn gydlafurwyr yn y gwaith. Y mae y bardd, pwy bynag ydyw, yn ymhyfrydu ei hun, ac yn galw ar ereill i ymhyfrydu yn y gwaith o glodfori Duw, am fod y gwaith ynddo ei hun yn hyfryd, ac yn weddus a dyledus yn gystal a hyny. O holl ddyledswyddau crefydd, y flaenaf a’r benaf, yn gystal a’r hyfrytaf i’w chyflawni, ydyw moliannu Duw; a dyma fydd gwaith penaf a hyfrydwch penaf y nefoedd byth. Y mae y salm hon yn dwyn llawer o ddelw y salm o’r blaen o’r eiddo Dafydd arni — yn salm clodforedd; a llawer o’r un testynau clodforedd, a chymmhelliadau i’r gwaith, yn cael eu nodi, megys anfeidrol fawredd, daioni, a graslonrwydd Duw; ei fawredd naturiol a’i fawredd moesol, y rhai a osodir y naill ar gyfer y llall, fel y mae y naill yn gogoneddu y llall. Er enghraifft, “Efe sydd yn iachau y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau:” adn. 3. Ac, “Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr,” & c.: adn. 4. Y casgliad oddi wrth hyn ydyw, mai “Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall;” adn. 5. Gan hyny, ynte, “Cydgenwch i’r Arglwydd mewn diolchgarwch,” & c.; adn. 6. Yna edrychir ar fawredd ei ddoethineb a’i ddaioni, fel Duw natur a rhagluniaeth, yn parotoi gwlaw i’r ddaear, yn porthi anifeiliaid y maes, ac adar yr awyr: adn. 8, 9. Yna dychwelir yn ol etto at ei fawredd grasol, yn “Hoffi y rhai a’i hofnant, ac a obeithiant ynddo:” adn. 10, 11. Yna gelwir ar Ierusalem a Seion, ei bobl ef, mewn modd arbenig, i foliannu eu Duw am ei ddaioni a’i ffafrau neillduol iddynt hwy: yn laf, yn ei ddaioni iddynt, yn wladwriaethol a chymdeithasol, yn cadarnhau eu dinas wedi ei hadferu o’i hanghyfannedd‐dra, yn lliosogi ei phlant, ac yn gwneyd eu bro yn heddychol, drwy gadw draw y gelynion — ïe, yn eu bendithio â phob llawnder o drugareddau tymmorol, & c.: adn. 12-14. Cymmerir adolwg etto ar fawredd Duw yn ei ragluniaeth gyffredinol, yn ngoruchwyliaethau y tymmorau a’r tywydd — y rhew a’r eira: adn. 15, 16, 17, 18. Yna, yn olaf, ac yn benaf oll, ei ddaioni grasol i’w genedl etholedig ragor un genedl arall, “yn hysbysu ei ddeddfau a’i farnedigaethau iddynt:” adn. 19, 20. Terfyna y gân mewn galwad etto ar ddeiliaid y rhagorfreintiau hyn i fawrhau a chlodfori eu Duw am danynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.