1Wele, mor dda a hyfryd yw,
Fod brodyr yn byw ’nghyd!
2Mae undeb cariad pur y saint
Megys yr enaint drud,
Dywalltwyd ar ben Aaron pan
Wnaed e’n offeiriad Duw,
Yr hwn a redai dros ei farf
Ar hyd ei wisgoedd gwiw.
3Neu fel y gwlith o groth y wawr
Ar fynydd Hermon fry —
Y gwlith ddyhidla’r nef i lawr
Ar fryniau Seion gu;
Can’s yno y gorch’mynodd Duw
Ei fendith fyw i fod,
Sef, bywyd bythol ei barhâd
Er ei dragwyddol glod.
Nodiadau.
Tybir ddarfod i Dafydd gyfansoddi y salm hon pan yn gweled llwythau Israel yn cydymgasglu i’r tu hwnt i’r Iorddonen i’w gyrchu adref yn ol i Ierusalem, wedi ei fföedigaeth rhag ofn y gwrthryfel a gyfodasai Absalom ei fab; ac wrth eu gweled oll mor unol a gwresog ar yr achlysur hwnw, cymmhara undeb a brawdgarwch pobl Dduw i’r enaint gwerthfawr, peraroglus, â’r hwn yr eneinid Aaron i’w swydd offeiriadol, ac i wlith y nefoedd ar fynyddoedd Seion. Cenid y salm hon yn fynych gan y Cristionogion cyntefig, gan ei chymmhwyso at undeb hapus Iuddewon a Chenhedloedd yn un frawdoliaeth yn Nghrist; a byddai yn dda iawn i bob eglwys ei chanu a’i hystyried yn ei chalon. Yn ei hundeb brawdgar y mae nerth a gogoniant pob eglwys; ac os ymedy ef, gellir ysgrifenu ‘Ichabod’ ar ei phyrth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.