1Dyrchafaf di ’m brenin a’m Duw,
I’th enw ’n dragwyddol rhof glod;
2Mi’th folaf tra byddaf fi byw,
Ni thawaf tra meddwyf fy mod;
3Canys mawr yw yr Arglwydd, mawr iawn,
Mawladwy anfeidrol yw ef,
Uwch dirnad pob deall a dawn
Fedd dynion ac engyl y nef.
4Fe draetha’r naill oes wrth y llall
O hyd am dy waith gyda blas;
5A minnau ddatganaf heb ball
Ogoniant a mawredd dy ras:
6Cadernid ofnadwy dy waith
A draethant, ni flinant yn sôn;
A minnau ni thawaf ychwaith
A’th ganmawl ar uchel bêr dôn.
7Coffânt am fawr amlder dy ddawn,
Ac am dy gyfiawnder didrai;
8Trugarog yw Duw, a gras lawn —
Hwyrfrydig i ddig er ein bai;
9Daionus i bawb yw efe,
Ac ar ei weithredoedd i gyd,
O’r ddaear hyd entrych y ne’,
Teyrnasa ’i drugaredd o hyd.
10Dy fawrion weithredoedd, hwynthwy
Osodant d’ogoniant i maes;
Dy saint a’th foliannant yn fwy
Am fawredd dy ryfedd rad ras;
11Hwy draethant, eglurant fawr glod
Dy hynod frenhiniaeth a’i hedd,
Mawrygant tra byddant yn bod,
Gadernid disyflyd dy sedd.
12I beri i blant dynion i dd’od
I ’nabod cadernid ein Duw,
A mawr ardderchawgrwydd a chlod,
Ei deyrnas a’i hurddas — mawr yw;
13Can’s teyrnas dragwyddol yw hi,
Ni ’sgogir, ni syflir mo’i sedd;
Fe bery ’n oes oesoedd ei bri,
Ei gwynfyd, ei hawddfyd, a’i hedd.
Rhan II.8.7.
14Yr Arglwydd sydd yn dal i fyny
Bawb sydd yn gogwyddo i lawr,
Codi pawb a ddarostyngwyd,
Wna o’i ras a’i allu mawr.
15Llygaid pawb ddisgwyliant wrthyt —
Pob creadur yn y byd;
Tithau wyt yn rhoddi iddynt
Oll, eu hymborth yn ei bryd.
16Agor wnai dy law gyfoethog
I ddiwallu pobpeth byw,
O’th ewyllys da dy hunan —
Pwy sydd debyg it’, O Dduw!
17Cyfiawn yn ei ffyrdd yw’r Arglwydd,
Uniawn yn ei farnau oll,
Sanctaidd yn ei holl weithredoedd,
Heb un nam, na cham, na choll.
18Agos at y rhai a alwant
Arno ’n wastad yw efe;
Pawb a’i ceisiant mewn gwirionedd,
Gwrendy ’n rasol ar eu llef.
19Dymuniadau ’r rhai a’i hofnant,
A gyflawna ef bob pryd,
Gwrendy arnynt, ac fe’u hachub
Hwy o’u cyfyngderau i gyd.
20Ceidw ef y sawl a’i carant
Yn ddiogel foreu a hwyr,
Ond yr annuwiolion cyndyn
A ddyfetha oll yn llwyr.
21Traetha ’m genau byth ei foliant,
Pob cnawd uned yn y gân,
I ddyrchafu yn dragywydd
Glod ei enw, sanctaidd, glân.
Nodiadau.
Hon yw yr olaf o salmau Dafydd, yn ol fel y maent wedi eu cyfleu yn y llyfr. Y mae efe yma megys yn ymgilio o’n gŵydd mewn cwmmwl o ogoniant. Salm clodforedd, o’i dechreu i’w diwedd, ydyw — heb un gair cwynfanus o’i mewn, fel y rhan fwyaf o’i salmau ereill ef. Y mae y salm wedi bod yn un boblogaidd iawn yn yr eglwys erioed, ac yn parhau felly o hyd. Y mae mawr fanylwch a chywreindeb yn nghyfansoddiad y salm hon, a rhai salmau ereill yn gyffelyb, fel y cawsom achos i sylwi o’r blaen. Dechreua pob gwers â llythyren newydd o’r egwyddor Hebraeg, yn rheolaidd o’r Aleph i’r Tau; ond fod y Nun (y drydedd ar ddeg) yn eisieu. Cyfansoddodd Dafydd hi yn ei hen ddyddiau, fel y bernir; ond y mae efe yma megys yn “adnewyddu ei ieuengctid fel yr eryr,” ac yn “ffrwytho etto yn ei henaint,” yn dirf ac yn iraidd. Testyn y gân ydyw mawredd, gogoniant, ac ardderchawgrwydd Duw. Enwir y testyn, ac ymroddiad awyddus y salmydd i ganu arno, ar ddechreu y gân. Traethir yn laf, ar fawredd hanfodol Duw: adn. 3, 4, 5. Yn 2il, Mawredd ei weithredoedd, ei ddaioni, a’i gyfiawnder: adn. 6-7. Yn 3ydd, Mawredd ei raslonrwydd, ei drugaredd, a’i amynedd: adn. 8-9. 4ydd, Mawredd, gogoniant, cadernid, a sefydlogrwydd ei frenhiniaeth a’i lywodraeth dragwyddol: adn. 10, 11, 12. 5ed, Mawredd ei dosturiaethau a’i gymmwynasgarwch i drueiniaid mewn iselder a gwasgfeuon: adn. 14. 6ed, Mawredd ei ofal am, a’i ddaioni i’w holl greaduriaid: adn. 15, 16. 7fed, Cyfiawnder ac uniondeb ei holl ffyrdd a’i oruchwyliaethau: adn. 17. 8fed, Ei ddaioni a’i raslonrwydd mewn modd neillduol i’w bobl — yn agos atynt, yn gwrando eu gweddi, yn cyflawni eu dymuniadau, yn eu hachub, & c., ac yn y diwedd yn dinystrio yr holl rai annuwiol: adn. 18, 19, 20. Yn 9fed, Terfyna gan benderfynu parhau i glodfori yr Arglwydd drachefn, a galw ar bob cnawd i gydymuno yn y gwaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.