1O! Cenwch lafar glod,
Bob perchen bod, a byw:
Ymgrymwch, holl drigolion byd,
Yn unfryd o flaen Duw.
2Dylwythau daear faith,
Bob llwyth ac iaith ynghyd,
Aberthwch iddo foliant glân
Mewn hyfryd gân i gyd.
3Ein lluniwr yw, a’n Tad,
Ein Ceidwad da bob dydd;
Efe ddiwalla ’n hangenrhaid
Fel defaid ei borf’ŷdd.
4O! ewch i mewn i’w byrth,
A dygwch ebyrth byw,
O foliant am ei ddoniau mâd,
A’i rad i ddynolryw.
5Tragwyddol pery hedd
Ei fawr drugaredd gûn,
A’i bur wirionedd sy’n parhau
O hyd drwy ’r oesau ’r un.
Nodiadau.
Hon yw yr unig salm a deitlir yn “Salm o foliant,” er fod llawer o’r salmau o’r un nodwedd. Tybygir ei bod wedi ei chyfansoddi i’w dadganu gan y bobl ar y dydd yr offryment eu hedd‐aberthau diolch, yn ol y gyfraith a osodir i lawr yn Lef. vii. 11, 12, 13. Dafydd, fe dybir, oedd ei hawdwr. Galw y mae efe yma etto, fel yn y salmau o’r blaen, ar bawb — yr holl ddaear — i foliannu yr Arglwydd, a hyny yn gyntaf oll, am mai efe yn unig sydd Dduw — yr unig wrthddrych addas a theilwng o addoliad a mawl. Yr oedd yr holl genhedloedd y pryd hyny yn addoli ac yn moliannu eilunod o waith eu dwylaw eu hunain. Llefa y Salmydd arnynt yma, gan ddywedyd, “Gwybyddwch mai Iehofah sydd Dduw;” ac iddo ef yn unig, gan hyny y perthyn mawl. Cymmhellir hyn etto ar holl ddynolryw yn gyffredinol — y Cenhedloedd, yn gystal a hâd Abraham — oddi ar yr ystyriaeth mai efe a’n gwnaeth ni, yn Israeliaid a Chenhedloedd, yn gystal a’n gilydd. Ac yn nesaf, ein cyd‐ddibyniad arno am holl angenrheidiau bywyd — “Ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.” Ni allwn ni gynnal ein hunain, mwy nag y gallasem greu ein hunain. Gelwir ar yr holl bobl i ymgasglu ynghyd i byrth a chynteddau Duw, i gyflwyno eu mawl a’u haddoliad yn gymdeithasol a chyhoeddus iddo; ac i wneyd hyny mewn llawenydd, o galon ewyllysgar, barod, ac awyddus, dan deimladau priodol o’u rhwymedigaethau i Dduw am ei ddaioni iddynt fel eu Creawdwr a’u cynnaliwr, a bod ei drugaredd a’i wirionedd yn parhau yn dragywydd. Nid oes un ddyledswydd y gelwir mor fynych arnom yn y Beibl i’w chyflawni a’r ddyledswydd o foliannu neu addoli Duw; canys i hyny y crëwyd dyn fel ei ddyben penaf; ac yn y mwynhâd o Dduw, drwy ei addoli, y mae ei ddaioni a’i ddedwyddwch penaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.