1Bendithiwch enw’r Arglwydd cu,
Ei weision ef sydd yn ei dŷ;
’Rhai sefwch yno ger ei fron
Y nos, bendithiwch ef yn llon.
2O fewn ei gyssegr o un fryd,
Dyrchefwch oll eich dwylaw ’nghyd,
Datgenwch iddo foliant rhydd,
Yn nhemlau ’i ras y nos a’r dydd.
3Iehofah, ’r hwn wnaeth nef a llawr,
Gorch’myned ef ei fendith fawr;
Allan o Seion aed ei ras
I holl genhedloedd daear las.
Nodiadau.
Hon yw’r olaf o Ganiadau y graddau. Pwy oedd ei hawdwr, nis gwyddys. Cyflwynir hi i’r Lefiaid, y rhai oedd yn cadw gwyliadwriaeth tŷ’r Arglwydd, fel y trefnasid hwy yn ddosbarthiadau gan Dafydd, i weini ar gylch — y dydd a’r nos. Y rhai a gadwent wyliadwriaeth y tŷ y nos, a gyferchir yma; felly, seren hwyrol yw y salm. Yr oedd mawl i Dduw yn cael ei ddadgan y dydd a’r nos yn wastad: fel nad oedd efe, Ceidwad Israel, byth yn huno, nid oedd moliant Israel i’w Geidwad byth i ddistewi. Tra pery ein perthynas â Duw fel ein Creawdwr, a’n dibyniaeth arno fel ein Cynnaliwr a’n Ceidwad, fe bery ein rhwymedigaethau mawl a diolchgarwch iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.