1Pan dd’wedent wrthyf, Awn
I dŷ ein Duw,
Fy nghalon fyddai ’n llawn
Llawenydd byw;
2I fewn i Salem byrth,
Sai’n traed, ni syrth yr un;
Cawn yno gadw gŵyl,
Mewn hwyl gyttûn.
3Caersalem ddinas gref,
Mawr yw ei chlod,
Nid oes o dan y nef
Ei bath yn bod;
4Can’s yno daw y saint,
Mawr yw eu braint a’u bri,
I gydfoliannu Duw
’Nghynteddau ’i dŷ.
(M. S.)
5Yn Salem dodwyd meingciau barn,
Yn gadarn eu sefydliad;
Meingciau tŷ Dafydd sydd yn ol
Y cyfammodol drefniad.
(6.4.)
6Dymunwch heddwch hon,
O fron ddifrâd:
I’r sawl a garo ’i llwydd,
Bo rhwydd fawrhâd;
7Teyrnased heddwch pur
O fewn ei rhagfur hi,
A ffyned p’lasau ’i saint
Mewn braint a bri.
8Er mwyn fy mrodyr saint,
A’m ceraint cu,
Y d’wedaf fi yn awr,
Hedd mawr fo i ti;
9Er mwyn tŷ Iôr ein Duw,
Tra byddwyf byw ’n y byd,
Dymunaf hyd fy medd
It’ hedd o hyd.
Nodiadau.
Rhydd teitliad y salm hon i ni sicrwydd am ei hawdwr; canys y mae teitlau y salmau yn dyfod gyda hwynt o’r dechreuad, ac nid fel y cynnwysiad a ddodir o flaen y pennodau, y rhai y mae eu cyntefigaeth oesau lawer yn ddiweddarach na’r Ysgrythyrau eu hunain. Dafydd oedd cyfansoddydd y gân hon, ac y mae nodweddion neillduol teimlad ac ysbryd Dafydd yn amlwg iawn ynddi — ei hoffder a’i hyfrydwch yn nhŷ a gwasanaeth tŷ’r Arglwydd, yr hyn a amlygir ganddo yn fynych iawn yn ei salmau. Dadgana yma ei lawenydd wrth weled yr un ysbryd yn ei bobl, a’u clywed yn annog y naill y llall i fyned i dŷ’r Arglwydd. Y mae y bobl a deimlant hyfrydwch eu hunain yn ngwasanaeth ac ordinhadau Duw bob amser yn awyddus i annog a chymmhell ereill i ymgynnull i’w dŷ, fel y mwynhaont hwythau yr un hyfrydwch. Y mae un pennill o’r gân yn dadgan clod, cadernid, cynlluniad, ac adeiladaeth dinas Ierusalem (adn. 2); a’r nesaf, ei rhagorfraint fel prif ddinas y llywodraeth, ond yn benaf fel dinas y Brenin Mawr — i’r hon yr ymgynnullai y llwythau ar y gŵyliau yn arbenig, i ymddangos ger ei fron ef, ac i gyflwyno eu haberthau a’u haddoliad iddo. Yn ddiweddaf, traetha y salmydd ei ddymuniadau goreu am heddwch a ffyniant parhaus dinas Duw, a phawb a’u carent hi, gan alw ar ereill i wneyd yr un peth. Y mae yr oll a ddywedir am yr Ierusalem hon, ei rhagorfreintiau a’i gogoniant, yn gymmhwysiadol iawn i’r Ierusalem nefol, eglwys Crist dan yr efengyl, yr hon sydd yn tra ragori ar hono yn ei rhagorfreintiau mwy ysbrydol a sylweddol. Y mae y ffaith ddarfod i’r ysbrydoliaeth ddwyfol roddi y weddi hon (a’r gweddïau ereill yr un modd), i gadw yn yr Ysgrythyr, yn ddigon o sicrwydd ei bod wedi ei gwrando a’i hatteb, ac y gwrandewir ac yr attebir pob gweddi a offrymir yn yr un ysbryd. Y mae y gweddïwyr hyn wedi peidio edrych i’r Aipht, ac ymddiried yn nerth Pharaoh am gymmhorth ac ymwared; ond yn disgwyl wrth eu Duw yn unig: ac yn union pan y delo y bobl i’r agwedd meddwl hwn, efe a gyfyd ac a drugarhâ wrth Seion:— “Canys yr amser i drugarhau wrthi; ïe, yr amser nodedig a ddaeth.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.