1O Arglwydd! gwared fi rhag gŵg
Y dynion drwg a thrawsion;
2’Rhai sy’n cynllunio o hyd o hyd,
Ddrygioni ’n mryd eu calon.
Ymgasglu i ryfel beunydd wnant,
3Golymant eu tafodau
Fel sarph, a gwenwyn aspaidd glâs
Sydd dan eu câs dafodau.
4O Arglwydd! cadw fi rhag gwŷr
Traws enwir eu bwriadau,
Y rhai gynlluniant yn eu brâd,
Fachellu ’nhraed i’w rhwydau.
5Y beilchion guddiant faglau fyrdd,
Ar hyd fy ffyrdd a’m llwybrau;
Ac ar fy medr i fel hyn,
Gwnant estyn eu hoenynau.
6Dywedais wrth yr Arglwydd cu,
Fy Nuw wyt ti yn ddiau;
Am hyny gwrandaw di o’r nef
Yn wastad lef f’ymbiliau.
7O Arglwydd Dduw! tydi yw nerth
Fy mhrydferth iachawdwriaeth;
Yn nydd y gâd gorchuddiaist fi,
Mawr weli, rhag marwolaeth.
Rhan II.M. S.
8Na chaniatâ, O Arglwydd mâd!
Ddymuniad anwir ddynion,
Rhag os y llwydda y gwŷr hyn,
Balchïant yn eu calon.
9Na’d iddynt hwy o’m cylch sy’n cau
I godi ’u penau ’n uchel;
Boed blinder eu gwefusau anfwyn
I’w dal a’u dwyn yn isel.
10Disgyned arnynt farwor noeth,
I’r ffwrn dân chwilboeth syrthiant;
Ac mewn ceuffosydd bwrier hwy,
A byth mwy ni chyfodant.
11A byth na sicrhaer ar
Y ddaear ddyn drygionus;
Y drwg a hela’r traws ei fryd
I’w ddistryw enbyd gwarthus.
12Mi wn y dadleu Duw o blaid
Y truan enaid gwirion;
Ac y rhydd ef iawn farn ar frys
I’r rhai anghenus tlodion.
13Y cyfiawn a glodforant byth
Dy enw dilyth, Arglwydd;
Trig y rhai uniawn ger dy fron
I gyd yn llon a dedwydd.
Nodiadau.
Y mae y salm hon yn ein troi yn ein hol megys, at amgylchiadau boreuol bywyd Dafydd, gan ei bod yn dwyn delw amryw o salmau a gyfansoddwyd pan yr oedd efe yn cael ei erlid gan Saul, a gwenieithwyr Saul, yn y naill le a’r llall, yn cynllwyno am fantais i’w fradychu i ddwylaw ei elyn marwol hwnw. Bernir mai ar ol corphori salmau ereill Dafydd, o’r gyntaf hyd y ddeuddegfed a thrigain, yn un llyfr, y deuwyd o hyd i’r chwe salm hyn, a rhai ereill o’r eiddo ef, ac i’r hwn a’u cafodd eu gosod a’u cyfleu yn y lle hwn. Cwyno y mae efe yn y salm hon, fel mewn llawer o’r salmau eraill, wrth ei Dduw yn erbyn ei elynion, a gweddïo ar fod iddo gael ei gadw a’i ddiogelu rhag eu maglau a’u drwg‐fwriadau, a thraethu ei hyder yn ei Dduw, fel ei Dduw cyfammodol, y byddai iddo ef barhau i’w waredu a’i fendithio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.