1O Dduw fy iachawdwriaeth!
’Rwy’n llefain nos a dydd;
2O! doed fy ngweddi atat,
Rho glust i’m cwynfan prudd;
3Fy enaid o flinderau
A lanwyd — nid oes hedd;
Fy einioes i a wasgwyd
Yn agos iawn i’r bedd.
4Wyf fel y rhai ddisgynant
I lawr i’r pydew certh:
Truenus iawn ei gyflwr
Wyf fi, fel gŵr heb nerth:
5Yn rhydd yn mysg y meirw,
Fel megys wedi eu lladd,
Yn gorwedd yn y beddau
Na chofir mwy eu gradd.
6Gosodaist fi ’n mhwll isaf
Trueni — suddo i lawr
Yr ydwyf mewn tywyllwch
Yn y dyfnderau mawr:
7O Arglwydd! mae dy soriant
Yn pwyso fel y plwm;
Ac â’th holl donau mawrion
Cystuddiaist fi yn drwm.
8Pellheaist fy nghydnabod
Oddi wrthyf — ciliant hwy;
Gwnest fi ’n ffieidd‐dra iddynt,
Ni ’drychant arnaf mwy;
Fe gaeth warchaewyd arnaf
Mewn cell ar ben fy hun,
9Fy llygad a ofidiodd
Gan faint fy nghystudd blin.
Rhan II.7.6.
Mi lefais arnat beunydd,
O Arglwydd! gwrandaw fi;
Fy nwylaw a estynais
I fyny atat ti:
10Ai i’r meirw gwnai ryfeddod?
A godant hwy o’r bedd,
I draethu dy ogoniant
Ac i fwynhau dy hedd?
11A draethir dy drugaredd
Yn mro marwolaeth brudd?
’Ddadgenir dy wirionedd
Yn nhir y distryw cudd?
12A ’dwaenir dy ryfeddod
Yn y tywyllwch du?
A’th foliant yn nhir anghof?
Distawrwydd yno sy!
13Ond mi a lefais arnat
Yn foreu iawn bob dydd;
Yn achub blaen y plygain,
Fy ngweddi beunydd sydd:
14Pa ham gwrthodi f’ enaid,
Y cuddi ’th wyneb pryd
Oddi wrthyf? Pa’m y sefi
Draw, draw yn mhell cyhyd?
15Truenus wyf i’r eithaf,
Ar drangc o hyd o hyd;
O’m hieuengctid yn petruso
Yr wyf gan ofn bob pryd:
16Dy soriant a aeth drosof,
Dy ddychryniadau mawr,
A gydruthrasant arnaf
I’m tori ’n llwyr i lawr.
17Fel dwfr y’m cylchynasant
I beunydd o bob tu;
Fy nghydamgylchu wnaethant
Fel dig elynol lu:
18Ti yraist gâr a chyfaill
Yn mhell oddi wrthyf, draw,
A’m holl gydnabod hefyd
I d’w’llwch — ’rwyf mewn braw!
Nodiadau.
Dyma Salmydd newydd “Heman yr Ezrahiad.” Nid Heman y cerddor yn amser Dafydd, medd deonglwyr, canys Lefiad oedd hwnw; ond gŵr o lwyth Iudah oedd hwn — o Zera, ei fab. Yr oedd i hwnw fab o’r enw Heman (1 Cron. ii. 6): a disgynydd o hwnw, dybygid, oedd Heman, y Salmydd hwn, ac a gyfenwir “yr Ezrahiad,” oddi wrth y cyndad Zera. Myn rhai mai camgymmeriad rhyw gopïydd boreuol oedd dodi “yr Ezrahiad” wrth ei enw, ac wrth enw Ethan, awdwr y salm nesaf, yr un modd; ac mai Lefiaid oedd y ddau, yn byw ryw bryd wedi amser Dafydd. Tybia amryw mai yn amser y caethiwed yn Babilon y cyfansoddodd yr Heman yma y salm gwynfanus hon. Credwn ni fod esbonwyr yn ceisio llusgo amryw o’r salmau i Babilon, na buont yno erioed, ac na pherthynant ddim i’r tymmor hwnw. Felly, dybygem nad oes dim oll a wnelo y salm hon â Babilon a’r caethiwed yno, bryd bynag y cyfansoddwyd hi, nac â neb na dim ond Heman ei hun. Cwynfanu yn ei achos ei hun y mae efe yma. Y mae y salm drwyddi o’r dechreu i’r diwedd yn gwynfanau ac ocheneidiau llwythog; ac y mae lle da i gasglu, dybygem, oddi wrth amryw ymadroddion, mai gŵr cystuddiol oedd y Salmydd hwn o’i ieuengctid; canys efe a ddywed, “Truan ydwyf, ac ar drangcedigaeth o’m hieuengctid” (adn. 15); a’i fod o’r diwedd, o herwydd ei hir lesgedd a’i anallu, wedi myned yn faich ar ei deulu a’i berthynasau, fel yr oeddynt yn ei esgeuluso ac yn ddibris o hono, ac fe ddichon yn awyddus am gael ymwared âg ef. Nid oedd gan y truan cystuddiol na “châr na chyfaill,” fel y dywed, a gydymdeimlai âg ef. Felly, yn ol yr hen bennill,
“Yr oedd pob llwybr wedi ei gauad
Ond y llwybr ato ef.”
Yr oedd hwnw yn agored iddo, ac yr oedd yntau yn ei adnabod; ac yn ei weddi hon, y mae yn tywallt ei holl galon, yn mynegu ei holl gystudd, ac yn traethu ei holl ddymuniadau ger bron Duw ei iachawdwriaeth. Y mae rhywbeth yn bur ddymunol, ac nid oes dim yn annaturiol yn y dybiaeth fod ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd yn y nefoedd, yn dal cymmundeb etto âg ysbrydoedd y saint ar y ddaear, ac yn gweinyddu cymmwynasau a chysuron ysbrydol iddynt yn ddiarwybod iddynt hwy. Y mae llawer plentyn i Dduw wedi bod yn gystuddiol, ac yn druan digon dibris gan bawb o’i amgylch ar hyd blynyddoedd ei oes. Gallem gasglu oddi ar y dybiaeth hon, mai swydd bennodol y Salmydd perffeithiedig hwn ydyw ymweled â’r cyfryw saint ar y ddaear i’w cysuro a’u dyddanu, gan iddo gael ei ddwyn a’i gadw yn ysgol cystudd a thrallod ei hun ar hyd ei oes. Gall fod saint Duw bob un yn cael eu dysgyblu drwy amgylchiadau eu bywyd yn y byd hwn i lenwi cylchoedd neillduol o ddefnyddioldeb yn y byd a ddaw. Dywedai y diweddar Williams o’r Wern lawer gwaith nad oedd y cymmundeb ysbryd rhyngddo â Rebeccah, ei wraig ddoeth a rhinweddol, wedi ei dori gan angeu — fod pethau yn dyfod yn ddisymmwth i’w feddwl weithiau, a’u dygent hi i’w gof yn union, gan fod delw ei meddwl hi, fel y tybiai efe, ar y meddyliau hyny.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.