Salmau 139 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM CXXXIX.8.8.8.I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Duw, chwiliaist, adnabuost fi,

2O bell fy meddwl weli di,

Eisteddiad, codiad ar bob pryd:

3Ti amgylchyni ’m llwybrau ’r dydd,

A’r nos un modd fy ngwely cudd,

Wyt hysbys yn fy ffyrdd i gyd.

4O’m tafod nid aeth gair ar goll,

Ond wele, Arglwydd, gwyddost oll,

5Yn ol, yn mlaen, o’m cylch ’r wyt ti;

Gosodaist arnaf fi dy law,

6Lle bynag elwyf, yma a thraw —

Mae hyn uwch law ’m gwybodaeth i.

7Oddi wrth dy ysbryd, i b’le ’r af?

Pa le o’th ŵydd i ffoi a gaf?

Pa le mae’r fro lle nad yw Duw?

8Os dringo wnawn i’r nefoedd wen,

Yno ’rwyt ti ar bawb yn ben,

Ac ynot ti mae’r nef yn byw.

Pe ceisiwn ddiangc rhag dy ofn

I g’weirio’m gwely’n uffern ddofn,

Wyt yno ’n llenwi’r lle â braw:

9Pe i eithafoedd moroedd mawr

Ehedeg wnawn ar esgyll gwawr,

10Ti’m delit yno yn dy law.

11Pe d’wedwn, Diau’r t’wyllwch du

A’m cuddiai yn ei ddirgel fru,

Y nos o’m cylch ai ’n oleu clir:

12Tywyllwch nos i ti y sydd

Un fath a goleu canol dydd:—

Ofnadwy wyt, fy Nuw, yn wir!

Rhan

II.

8.8.8.

13Fy natur oll feddiennaist ti,

Yn nghroth fy mam y toaist fi,

14Dy foli byth fy nhafod wna:

Ofnadwy a rhyfedd iawn y’m gwnaed,

Rhyfeddol yw’th weithredoedd mâd,

A’m henaid a ŵyr hyny ’n dda.

15Fy sylwedd oedd yn amlwg noeth,

I’th olwg di, fy Lluniwr doeth,

Pan y’m cywreiniwyd yn y bru;

16F’anelwig ddefnydd roed i lawr,

Yn llyfr dy hollwybodaeth fawr;

Anhysbys i ti dim ni fu.

17Mor werthfawr, Arglwydd, genyf fi

Yw y meddyliau am danat ti —

Mor fawr eu swm a’u nifer hwy!

18Y maent yn amlach, O! fy Iôr,

Na’r tywod mân ar lan y môr —

Myfyriaf byth am danat mwy.

19Cyfiawnder ac uniondeb yw

Dy farnau di, O Arglwydd Dduw!

Ti leddi yr annuwiol ddyn:

Am hyny, chwi d’wyllodrus rai,

Wŷr gwaedlyd, cildyn yn eu bai,

Ciliwch oddi wrthyf bob yr un.

Rhan

III.

8.8.8.

20Y rhai a draethant ’sgeler iaith

Yn erbyn Duw, a’i gyfiawn raith,

Halogi wnant ei enw ef:

21Câs genyf fi gaseion Duw;

Câs iawn a ffiaidd genyf yw

Y rhai sarhânt orseddfaingc nef.

22Casëais hwynt â chyflawn gâs,

Gelynion im’ yw’r gwŷr dirâs;

23O Dduw! ’rwy’n dyfod ger dy fron:

Hola a chwilia’m calon brudd,

Mỳn wybod y meddyliau cudd

Sy’n llechu yn nyfnderoedd hon.

24O! edrych, Arglwydd, a gwel di

Oes ffordd annuwiol genyf fi;

Arwain a thywys fi i’r iawn —

Ar hyd y ffordd dragwyddol sy’

Yn arwain i’r llawenydd fry,

Ardaloedd hedd a gwynfyd llawn.

Nodiadau.

Y mae yn rhai rhanau o Air Duw, megys y mae yn ei weithredoedd, “ogoniant mwy rhagorol” nag sydd mewn rhanau ereill. Y mae y salm hon yn neillduol yn rhagori mewn gogoniant ar gyfrif gwychedd y cyfansoddiad, a’r syniadau uchel a dyrchafedig a gynnwysa. Ystyriai yr hen ddysgawdwyr Iuddewig y salm hon yr odidocaf o holl salmau Dafydd; ac fe allai, ar rai ystyriaethau, ei bod felly. Y mae ei thestyn yn oruchel a gogoneddus, ac y mae y modd y traethir arno felly hefyd. Y testyn yw hollwybodaeth a hollbresennoldeb Duw. Llefara y Salmydd am Dduw wrth Dduw ei hun; ac y mae efe yn addoli wrth lefaru. Llais enaid ystyriol a chrediniol, enaid wedi ei lawn feddiannu a’i lyngcu i fyny yn y gwirioneddau mawrion a draethir ganddo, a glywir yma. Y mae yn cymmeryd y gwirioneddau hyny adref ato ei hun yn bersonol, ac nid yn edrych arnynt yn unig fel ystyriaethau cyffredinol yn eu perthynas â phawb fel eu gilydd. Y maent felly, a gellir eu traethu yn y wedd hono; ond wrth edrych arnynt yn y wedd gyffredinol yn eu perthynas â phawb, y mae perygl i ni anghofio eu perthynas â ni ein hunain yn bersonol. Ni ddwg un gwirionedd ei ddylanwad priodol ar y meddwl nes y delo wyneb yn wyneb, ac megys afael yn ngafael âg ef, ac y teimla fel pe na byddai yn perthyn i neb ond iddo ef ei hun. “Arglwydd! chwiliaist, ac adnabuost fi,” medd y Salmydd — fel pe na buasai neb ond ef yn bod. ‘Chwiliaist, neu nithiaist fi yn drwyadl, ac adnabuost fi yn berffaith — fy holl feddyliau a’m hamcanion, holl symmudiadau fy mywyd, fy ngeiriau, a’m hymddygiadau. Faint bynag o fanus, meddyliau ofer, gwammal, a gwibiog, a nwydau llygredig, a blysiau pechadurus sydd ynof, ti a’u gwyddost oll; ac od oes puredd ynof ger dy fron, yn nghanol y manus a’r gwehilion lawer, ti a weli, ac a adwaenai hwnw hefyd.’ Chwiliodd a nithiodd Laban babell Iacob, a phebyll ei wragedd, wrth geisio y delwau a gollasai; ond methodd eu cael, er eu bod yn mhabell Rahel, wedi eu cuddio yn offer y camel. Ond nid chwiliwr fel Laban sydd yma. Pa mor ddwfn‐ddirgel bynag y cuddio’r enaid ei eilunod, “Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.”

Cymmer y Salmydd olwg ar hollbresennoldeb Duw, mewn cyssylltiad â’i hollwybodaeth; ac y mae y ddwy briodoledd yn hanfodol gyssylltiedig â’u gilydd — y naill yn cynnwys y llall. Rhaid fod yr hwn sydd yn hollwybodol yn hollbresennol, a’r hwn sydd yn hollbresennol yn hollwybodol yr un modd; ac nid all ond un bod felly hanfodi. Pe dodid gwirioneddau y salm hon yn mhob meddwl, fel eu sylweddolid yn ystyriaeth a chrediniaeth fyw yno, arefid ac attelid rhwysg pechod ac annuwioldeb yn y fan; rhoddai wedd newydd ar fucheddau a moesau dynion ar unwaith. Ond tra y mae gwirioneddau y salm yn ddychryn i’r annuwiol a’r rhagrithiwr, y maent o’r tu arall yn ffynnonau cysur a diddanwch i’r enaid cywir a didwyll. Y mae yr enaid sydd yn llefaru yma, ar y diwedd, yn cyflwyno ei hun i’r hollwybodaeth i’w chwilio drachefn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help