1Molwch Dduw yn ei gyssegr len,
sef ei ffurfafen nerthol,
2Molwch ef iw gadernid llym,
ac amlder grym rhagorol.
3Ar lais udcorn rhowch y mawl hyn,
ar nabl, telyn, Tympan.
4Molwch chwi ef â llawn glod glau,
a thannau, pibell, organ.
5Ar symbalau molwch ef,
ar rhai’n â’i llef yn sein-gar:
O molwch ef â moliant clau,
ar y Symbalau llafar.
6Holl bethau (molent unduw byth)
sydd ynthynt chwyth y bywyd.
Rhoent gyd-gerdd foliant i barhau:
clodforwn ninnau hefyd.
Gogonedd a fytho i’r Tâd,
i’r Mab rhad a’r glân Yspryd:
Mal y bu, y mae, ac y bydd
yn Duw tragywydd hyfryd.
Terfyn Salmau Dafydd.Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.