1Yr Arglwydd Dduw yw ein brenin,
er maint yw trin y bobloedd:
Mae’n eistedd rhwng dau gerubyn,
fe gryn’ pob daiar leoedd.
2Canys brenin mawr ydyw’r Ion
yn Seion o’i dderchafel:
Ac uwchlaw pobloedd yr holl fyd,
y sydd o rydyd uchel.
3Cydfoliannant o’r nef i’r llawr,
dy enw mawr rhagorol:
Ofnadwy, sanctaidd, yw i’w drin.
4Tithau (o frenin nerthol)
A geri farn, darperi iawn:
yn gyfiawn heb draws-osgo:
A barnedigaeth bur ddidost,
a wnaethost di yn Jago’.
5Derchefwch yr Arglwydd ein Duw,
sef sanctaidd yw i’w fawredd:
Ymgrymmwch o flaen ei stol draed,
felly parhaed ei fowledd.
6Moses, ac Aaron sanctaidd blaid,
ymhlith offeiriaid gyrrodd:
Samuel galwai ei enw ef,
yntau o’r nef attebodd.
7Mewn colofn o niwl y bu wiw,
gan Dduw lefaru wrthynt,
Tra fuant hwy yn cadw ei fodd,
a’r ddeddf a roddodd iddynt.
8Gwrandewaist arnynt, dodaist ged,
a’i harbed, gan ymattal:
Duw ein Nâf, dy nawdd parod fu,
a hwythau’n haeddu dial.
9Derchefwch ein Duw Ior am hyn,
yn Seion fryn cyssegraidd,
Ymgrymmwch iddo yn eich byw,
sef unig Dduw sydd sanctaidd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.