1Dwedai’r Arglwydd wrth f’Arglwydd mau,
ar fy llaw ddeau eistedd:
Nes rhoddi’ rhai a gais dy waed
yn faingc draed yt, i orwedd.
2’R Arglwydd denfyn ffrewyll dy nerth
o ddinas fowrwerth Seion,
Pan lywodraethech yn eu mysg,
gwna derfysg ar d’elynion.
3Yn nydd dy nerth dy bobl a ddaw,
ag aberth llaw’n wyllysgar,
Yn sanctaidd hardd daw’r cynnyrch tau
o wlith y borau hawddgar.
4Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,
ti sy’n offeiriad bythol,
Wrth urdd Melchisedech odd’ fry,
a bery yn dragwyddol.
5Yr Arglwydd ar dy ddehau law,
brenhinoedd draw a friwa,
Yn nydd ei ddig gwna’n archollion
frenhinoedd cryfion, meddaf.
6Ar y cenhedloedd rhydd farn iawn,
a’i gwlad gwna’n llawn celanedd:
A llawer pen dros wledydd mawr,
a dyrr ei lawr yn unwedd.
7O wir frys i’r gyflafan hon,
fe yf o’r afon nesaf:
A gaffo ar ei ffordd yn rhwydd,
a’r Arglwydd a’i derchafa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.