1Teyrnasu y mae yr Arglwydd,
mewn ardderchowgrwydd gwisgodd:
Ymwisgodd f’Arglwydd yn brydferth,
a nerth yr ymwregysodd.
2Fe a sicrhâodd sail y byd
heb syflyd, yn ddihareb.
Dy faingc erioed a ddarparwyd,
ti wyd er tragwyddoldeb.
3Y llifeiriaint, (fy Arglwydd) faint
y llifeiriaint yn codi,
Tyrfau a llif yn rhwygo’r llawr,
a thonnau mawr yn coethi.
4Cadarn yw tonnau y moroedd,
gan dyrfau dyfroedd lawer.
Cadarnach yw yr Arglwydd mau,
yn nhyrau yr uchelder.
5Dy dystiolaethau ynt siwr iawn:
sef cyfiawn yw sancteiddrwydd:
A gweddus yn dy dy di fydd,
byth yn dragywydd f’Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.