Y Salmau 125 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXXVQui confidunt.Mae fe yn dangos siccr obaith y ffyddloniaid yn eu blinderau, gan ddymuno iddynt lwyddiant: ac i’r rhai anwir ddistryw.

1Sawl a’mddiriedant yn Nuw Ion,

byddant fel Seion fynydd,

Yr hwn ni syfl: a’i sylwedd fry

a bery yn dragywydd.

2Fel y saif sail Caersalem fry,

a’i chylchu mae mynyddoedd:

Felly yr Arglwydd yn gaer fydd,

dragywydd cylch ei bobloedd.

3Er na orphwys rhag cledd hir

yr enwir ar gyfiowniaid,

Rhag i’r rhai cyfiawn ystyn llaw

i deimlaw campau diriaid.

4O Arglwydd Dduw yn brysur gwnn

i bob dyn da ddaioni:

Sef union attad ti yn glau

y bydd calonnau’ rhei’ni.

5Onid y dryg-ddyn Duw a’i gyrr

gydâ gweithwyr anwiredd:

Mewn drwg ymdroes, felly ymdroed,

ar Israel boed tangnhefedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help