Y Salmau 57 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LVIIMiserere mei.Dafydd yn anialwch Ziph yn galw ar Dduw drwy ymddiried yn ei addewid ef. Ac y dangosai ef ei ogoniant. Am hynny y mae ef yn rhoi diolch a mawl.

1Dy ras, dy nawdd, (fy Nuw) ym’ dod,

sef ynod ymddiriedaf,

Nes myned heibio’r aflwydd hyn

dan d’edyn ymgyscodaf.

2Ymddiried f’enaid ar Dduw sydd,

ar Dduw drwy ffydd mi a alwaf,

Ac a gwblhaf ei air yn iawn,

sef cyfiawn yw’r Goruchaf.

3O’r nef yr enfyn geidwad y’m,

rhag nerth dyn llym a’m llyngcai:

Enfyn fy Nuw ei nawdd a’i hedd,

a’i lân wirionedd didrai.

4Ym mysg y llewod mae fy oes,

plant dynion poethfoes eiriau,

Eu dannedd sydd fel gwayw neu saeth,

a’i tafod gwaeth nâ’r cleddau.

5Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,

oddiyno daw d’arwyddion:

A bydded dy ogoniant ar

y ddaiar, a’i thrigolion.

6O flaen fy nrhaed y rhoesant rwyd,

ac felly’m rhwymwyd weithian:

Ar fy ffordd y cloddiasant glawdd,

i’r hwn yn hawdd syrthiasan.

7Parod yw fy nghalon (o Dduw)

o parod yw fy nghalon.

Canaf yt’ a datcanaf wawd

o fawl fy nhafawd cyson.

8Deffro dafod, a deffro dant,

a chân ogoniant beunydd,

Nabl a thelyn, eb ado un,

deffrof fy hun ar las ddydd.

9Mawl yt (o Arglwydd) pan ddeffrof

a rof ymysg y bobloedd:

A chlodfori dy enw a wnâf

lle amlaf y cenhedloedd.

10Cans crrhaeddyd y mae dy râs

hyd yn’nhyrnas y nefoedd:

A’th wirionedd di hyd at len

yr wybren, a’i thyrnasoedd.

11Ymddercha (Dduw) y nef uwchlaw,

oddiyno daw d’arwyddion:

A bydded dy ogoniant ar

y ddaiar a’i thrigolion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help