Y Salmau 26 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XXVIIudica me Domine.Y mae Dafydd yn dangos ei ddiniweidrwydd: ac i ddangos nâd ffug yw ei weddi, mae fe yn crio yn erbyn y rhai sydd yn arfer ffug sancteiddrwydd, sef ei elynion.

1Barn fi (o Dduw) a chlyw fy llais,

mi a rodiais mewn perffeithrwydd:

Ac ni lithraf, am ym’ roi ’mhwys,

yn llownddwys ar yr Arglwydd.

2Prawf di fy muchedd Arglwydd da,

a hola dull fy mywyd:

A manwl chwilia’r galon fau:

A phrawf f’arennau hefyd.

3O flaen fy llygaid, wyf ar led

yn gweled dy drugaredd:

Gwnaeth da ar hynny ar bob tro,

y’m rodio i’th wirionedd.

4Nid cyd eistedd gydâ gwagedd,

neu goegwyr yn llawn malais:

5Câs gennif bob annuwiol rith,

ac yn eu plith ni ’steddais.

6Mi olchaf fy nwy law yn lân,

cans felly byddan, f’Arglwydd,

Ac a dueddaf tua’th gor,

ac allor dy sancteiddrwydd.

7Y modd hyn teilwng yw i mi,

luosogi dy foliant:

Sef, addas i mi fod yn lân,

i ddatcan dy ogoniant.

8Arglwydd ceraist drigfan dy dy,

lle’r ery’ dy anrhydedd:

9N’âd f’enaid i a’m hoes ynghyd

â’r gwaedlyd llawn enwiredd.

10Eu dwylaw hwynt sy sceler iawn,

y maent yn llawn maleisiau.

A dehaulaw yr holl rai hyn,

sy’n arfer derbyn gwobrau.

11Minnau’n ddiniwed, (felly gwedd)

ac mewn gwirionedd rhodiaf:

Gwared fi drwy dy ymgeledd,

cymer drugaredd arnaf.

12Fe saif fy nrhoed i ar yr iawn,

ni syfl o’r uniawn droedfedd:

Mi a’th glodforaf: Arglwydd da,

lle bytho mwya’r orsedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help