Y Salmau 137 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXXXVIISuper flumina.Yr Israeliaid yn eu caethiwed (wrth glywed y Caldeaid yn cablu Duw) sydd yn dymuno ar Dduw gosbi yr Edomiaid, y rhai a barasent i wyr Babel greuloni wrthynt: a prophwydoliaeth am ddinistr Babel.

1Pan oeddym gaeth yn Babilon,

ar lan prif afon groyw,

Mewn coffadwriaeth am Seion,

hidlason ddagrau’n loyw.

2Rhoddasom ein telynau’n ’nghrog,

ar goed canghennog irion.

Lle yr oedd preniau helyg plan,

o ddeutu glann yr afon.

3Y rhai a’n dug i garchar caeth,

ini yn ffraeth gofynnen:

A ni’n bruddion, gerdd i Seion,

sywaeth peth nis gallen:

4O Dduw pa fodd y canai neb,

(rhoem atteb yn ystyriol)

I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,

a ni mewn gwlad estronol?

5Os â Chaersalem o’r cof mau,

anghofied dehau gany:

6Na throed fy nhafod, oni bydd,

hi’n ben llawenydd ymy.

7Cofia di Dduw, blant Edom lemm,

yn nydd Caersalem howddgar.

Noethwch dynoethwch (meddei rhai’n)

ei mur a’i main i’r ddaiar.

8Bydd gwyn eu byd i’r sawl a wnel

iti merch Babel rydost,

Yr unrhyw fesur, gan dy blau,

i minnau fel y gwnaethost.

9Y sawl a gymro dy blant di,

bo’r rhei’ni fendigedig,

Ac a darawo’r eppil tan,

a’i pennau wrth y cerrig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help