1Cenwch i’r Arglwydd, ac iawn fydd,
ryw ganiad newydd rhyfedd:
A chlywer ynghynlleidfa’r Sainct,
ei fawr fraint a’i orfoledd.
2Boed Israel lawen a ffraeth,
yn Nuw a’u gwnaeth yn ddibrin:
A byddant hyfryd blant Seion,
yn Nuw eu tirion frenin.
3Molant ei Enw ar y bibell,
a thympanell, a thelyn:
4Cans bodlon iw bobl yw i gyd,
rhydd iechyd i’r lledneus-ddyn.
5Iw Sainct ef doed gorfoledd iawn,
a hon yn llawn gogoniant,
Yn eu gweiau, (yn llawn ddull)
ac yn eu stefyll canant.
6Yn eu genau bydd cerdd bob awr,
ein Duw a’i fawr ryfeddod,
Ac yn eu dwylaw bydd iw drin,
y cleddyf deufin parod:
7Ar estroniaid i’n dial ni,
ac i gosb boeni’r bobloedd:
8I roi mewn caethder gadwyn dro,
i rwymo ei brenhnioedd.
I roi eu pendefigion chwyrn,
mewn gefyn heyrn ffyrnig.
9I wneuthur arnynt union farn,
yn gadarn scrifennedig.
Dymma’r glân ardderchwgrwydd fydd
iw Sainct y sydd yn credu;
Clodforwch oll yr Arglwydd nef,
o molwch ef am hynny.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.