Y Salmau 95 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XCVVenite exultemus.Y mae’n annog i foli Duw am lywodraethu y byd, a dewis yr eglwys: ac i ochel cyfeilorni ein tadau, y rhai am demptio Duw, ni chawsant ddyfod i dir y bywyd.

1O dowch a chanwn i’r Arglwydd,

efe yw llwydd ein bywyd:

Ac ymlawenhawn yn ei nerth,

ef yw ein prydferth iechyd.

2O down yn un-fryd gar ei fron,

â chalon bur ddiolchgar:

Bryssiwn at Dduw dan lawenhau,

a chanwn psalmau’n llafar.

3Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,

y sy Dduw mawr yn ddiau:

Tywysog mawr yw ef mewn trin,

a brenin yr holl dduwiau.

4Efe biau holl ddaiar gron,

a’r dyfnder eigion danaw:

Uchelder hefyd, eithafoedd,

mynyddoedd sydd yn eiddaw.

5Ef biau’r moroedd uwch pob traeth,

ac ef a’i gwnaeth i ruo:

Ei ddwylaw ffurfiasant yn wir

y sych-dir ac sydd yntho.

6O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn,

ac ymostyngwn iddaw:

Ef yw ein Arglwydd un-ben rhi’,

ef a’n gwnaeth ni â’i ddwylaw.

7Cans ef i ni y sydd Dduw da,

a phobl ei borfa ydym:

A'i ddefaid ym, os chwi a glyw

ei air ef heddyw’n gyflym.

8Meddyliwch fod eich bai ar lled,

na fyddwch galed galon:

Fel yn nydd prawf, mewn anial dir,

lle y cofir bod ymryson.

9Y lle temtiodd eich tadau fi,

a’m profi i’m adnabod:

Faint ydoedd y gweithredoedd mau,

yn ddiau cawsant wybod.

10Dros ddeugain mlynedd â’r llin hon

drwy fawr ymryson, dwedais,

Pobloedd ynt cyfeiliornus iawn,

a’i calon yn llawn malais.

Cans nid awaenent y ffyrdd mau,

onid amlhau eu tuchan:

11Wrthynt i’m llid y tyngais hyn,

na ddelyn i’m gorphwysfan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help