1Moliannu’r Arglwydd da iawn yw,
a chyfarch Duw yn bennaf:
A chanu i’th enw di fawl,
a’th ganmawl (y Goruchaf.)
2Y borau am dy drugaredd,
a’th wirionedd son y nos,
3Ar ddectant, nabyl, a thelyn,
myfyrio hyn a’i ddangos.
4Sef drwy dy weithred llawen wyf,
ynnyn nwyf yn fy Nuw Naf:
Yngwaith dy ddwylaw fy Nuw Ior,
beunydd y gorfoleddaf.
5Dy weithredoedd ond mawrion ynt?
6Dy helynt nis gwyr anghall:
Dy feddyliau o ddyfn iawn fryd,
hyn nis gwyr ynfyd ddeall.
7Pan flodeuo yr enwir ddyn,
megis llyseuyn iraidd,
Pan fo drygweilch yn gref eu plaid,
Duw yno rhaid eu diwraidd.
Y drwg flagur uchel yr ânt,
a hwy a syrthiant beunydd:
8Tithau yr Arglwydd yn ddigel,
wyt uchel yn dragywydd.
9O Arglwydd wele d’elynion,
dy gaseion difethir:
A holl weithredwyr trais a cham,
yn ddinam a wasgerir.
10Tydi a dderchefi fy nghorn,
fel yr unicorn perffaith.
Hefyd â gwerthfawr olew ir,
i’m taenellir i eilwaith.
11Fy llygaid a welant hefyd,
fy ngwynfyd o’m gelynion.
A’m clustiau a glywant ar frys
f’ewyllys am ddrwg ddynion.
12Y cyfion blodeua i’r nen,
fal y balmwydden union,
Cynnyddu yn iraidd y bydd,
fel cedrwydd yn Libanon.
13Y rhai a blannwyd yn nhy Dduw,
yn goedwyrdd byw y tyfant,
Ac ynghynteddau ein Duw ni
y rhei’ni a flodeuant.
14A dwyn eu ffrwyth a wnant o faint,
yn amser henaint etto,
Tirfion, iraidd, a phrofadwy
a fyddant hwy yn hilio.
15I ddangos nad traws, ac nad cam
yw f’Arglwydd a’m cadernyd,
Ac nad oes yntho na chamwedd,
na dim anwiredd hefyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.