Y Salmau 15 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XVDomine quis habitabit.Dull a chyflog buchedd da.

1Dywaid i mi pa ddyn a drig,

i’th lys barchedig: Arglwydd?

A phwy a erys ac a fydd

ym mynydd dy sancteiddrwydd?

2Yr hwn a rodia’n berffaith dda,

yr hwn a wna gyfiownder:

A’r hwn a draetha o’i galon wir,

a drig ar dir uchelder.

3Yr hwn ni ddywaid, ac ni wna,

ddim ond o’r da bigilydd:

Ac ni chynnwys y rhai a ron

iw cymdogion gwilydd.

4Y’r hwn sydd isel yn ei fryd,

yn caru’i gyd gristnogion,

Yr hwn sy’n ofni’r Arglwydd Dduw,

ac sydd yn byw yn ffyddlon.

5Yr hwn ni thyng ddim ond y gwir,

er dir neu niwed iddo:

Ac ni ro ei arian yn llog,

er dwyn cymydog dano.

6Na gobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,

er dal yn erbyn gwirion.

7A wnelo hyn ni lithra fyth,

fe gaiff y ddilyth goron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help