Y Salmau 133 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXXXIIIEcce quam.Clod cariad brawdol, a’i gyffelybu i’r olew yn y 30. pen. o Exodus.

1Wele fod brodyr yn byw ’nghyd,

mor dda, mor hyfryd ydoedd:

2Tebyg i olew o fawr werth,

mor brydferth ar y gwisgoedd.

Fel pe discynnai draw o’r nen,

rhyd barf a phen offeiriad.

Sef barf Aron a’i wisg i gyd,

yn hyfryd ei arogliad.

3Fel pe discynnai gwlith Hermon

yn do dros Seion fynydd,

Lle rhwymodd Duw fywyd, a gwlith

ei fendith, yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help