Y Salmau 52 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LIIQuid gloriaris.Dangos dull gorthrymydd, ac am ei ddiwedd: cysur i’r ffyddlon yn Nuw. Mae y Psalm hon yn gosod allan yn eglur dyrnasiad yr Anghrist.

1Pa’m y rhodresi yn dy frâd,

a’th ddrwg fwriad (o gadarn?)

A maint trugaredd Duw bob dydd,

ac felly bydd hyd dyddfarn.

2Dychymyg drwg yw’r fyfyrdawd,

a gwaith dy dafawd sceler,

Hwn sydd fel ellyn llym o ddur,

a’i swydd yw gwneuthur ffalsder.

3Ni hoffaist dda, gwnaist ddrwg yn haws,

a’r traws, yn fwy nâ’r union,

4Hoffaist eiriau distryw a bâr,

ti golyn twyllgar, creulon.

5Duw a’th ddistrywia dithau byth,

fo dyn dy chwyth o’th gaban:

Ac a dyn dy wraidd di i gyd,

o dir y bywyd allan.

6Rhai a’i gwelant a arswydant,

cans hwy a ydynt gyfion:

A hwy a chwarddant am ei ben,

pan welont ddilen greulon.

7Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwys

ar Dduw na’i bwys na’i oglud,

Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,

a rhif a gwerth ei olud.

8Minnau fel oliwydden werdd

yn nhy Dduw, cerdd a ganaf,

Ymddiriedaf iddo yn hawdd,

byth dan ei nawdd y byddaf.

9Mi a’th folaf, a’th obeithiaf,

bythoedd drwy ymddiried.

Da yw dangos garbron dy Saint

dy enw, a maint dy weithred.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help