Y Salmau 6 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM VIDomine ne in furore.Gweddi o drymder am ei bechodau: a phan gafas obaith, y mae yn dibrissio ei elyn, gan foli Duw.

1O Arglwydd na cherydda fi,

ymhoethni dy gynddaredd:

Ac na chosba fi yn dy lid,

o blegid fy enwiredd.

2O Arglwydd dy drugaredd dod,

wyf lesg mewn nychdod rhybrudd:

O Arglwydd dyrd, iacha fi’n chwyrn,

mae f’esgyrn i mewn cystudd.

3A’m henaid i or llesgedd hyn,

y sydd mewn dychryn sceler:

Tithau O Arglwydd, paryw hyd?

rhoi arnaf ddybryd brudd-der.

4Duw gwared f’enaid, dychwel di,

iacha fi a’th drugaredd:

5Nid oes yn angau gof na hawl,

a phwy ath fawl o’r pridd-fedd.

6Diffygiais gan ochain bob nos,

mewn gwal anniddos foddfa:

Rwy’n gwlychu drwy y cystudd mau,

a’m dagrau fy ngorweddfa.

7O ddig i’m cas a goddef drwg,

fy ngolwg sy’n tywyllu:

A chan y dwfr a red yn rhaff,

ynt angraff ac yn pylu.

8Pob un a wnelo, aed ymhell,

na dichell nac enwiredd:

Cans clybu yr Arglwydd fy llais,

pan lefais am drugaredd.

9Yr Arglwydd clybu ef fy arch,

rhof finnau barch a moliant:

Fe dderbyn fy ngweddi, a’m gwaedd,

am hyn yr haedd ogoniant.

10Fe wradwyddir, fe drallodir

yn ddir fy ngelynion:

Ac fo’i dychwelir drwy fefl glwth,

Hwynt yn ddisymwth ddigon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help