1I Dy’r Arglwydd (pan ddwedent) awn,
i’m llawen iawn oedd wrando.
2Sai’n traed o fewn Caer-Salem byrth,
yr un ni syrth oddiyno.
3Caersalem lân ein dinas ni,
ei sail sydd ynddi’i hunan:
A'i phobl sydd ynddi yn gytun,
a Duw ei hun a’i drigfan.
4Cans yno y daw y llwythau ’nghyd,
yn unfryd, llwythau’r Arglwydd:
Tystiolaeth Israel a’i drig-fod,
a chlod iw fawr sancteiddrwydd.
5Cans yno cadair y farn sydd:
eisteddfod Dafydd yno.
6Erchwch i’r ddinas hedd a mawl:
a llwydd i’r sawl a’th garo.
7O fewn dy gaerau heddwch boed,
i’th lysoedd doed yr hawddfyd.
8Er mwyn fy mrodyr mae’r arch hon,
a’m cymydogion hefyd.
9Ac er mwyn ty’r Arglwydd ein Duw,
hwn ynot yw’n rhagorol:
O achos hyn yr archaf fi,
i ti ddaioni rhadol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.