1Addewais gadw ’ngenau’n gu,
rhag pechu yn fy ngeiriau,
2Y dyn annuwiol lle y bo
bwriedais ffrwyno ’ngenau.
3Tewais, tewais fel y dyn mud,
rhag dwedud peth daionus,
Pan y cyffroais o hir ddal,
ymattal oedd ofidus.
4Yn fy nghalon y cododd gwres:
a’m mynwes o’m myfyrdod,
Fel y tân ynynnu a wnaeth,
a rhydd yr aeth fy’ nhafod.
5O dangos ym’ (fy Arglwydd ner)
pa amser y diweddaf
Rifedi ’nyddiau: a pha hyd
o fewn y byd y byddaf.
6Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw,
i’m heinioes daw byr ddiwedd.
Diau yn d’ olwg di (o Dduw)
fod pob dyn byw yn wagedd.
7Sef mewn cysgod y rhodia gwr,
dan gasglu pentwr ofer,
Odid a wyr wrth dyrru da
pwy a’i mwynha mewn amser.
8Beth bellach a obeithiaf fi,
Duw rhois i ti fy nghalon.
9Tyn fi o’m camweddau yn rhydd,
nâd fi’n wradwydd i ffolion.
10Yn fudan gwael yr aethym i,
a hyn tydi a’i parodd:
11O tyn dy gosp oddiwrthif swrn,
sef pwys dy ddwrn a’m briwodd.
12Pan gosbech di am bechod wr
fo wywa’n siwr ei fowredd,
Fel y gwyfyn: gwelwch wrth hyn
nad yw pob dyn ond gwagedd.
13Clyw fy ngweddi o Dduw o’r nef,
a’m llef: a gwyl fy nagrau
Dy wâs caeth wyf (o clyw fy mloedd)
ac felly ’roedd fy nheidiau.
14O paid a mi gad ym gryfhau,
cyn darfod dyddiau ’mywyd.
15O gwna â mi sy’ mron fy medd
drugaredd a syberwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.